Clara Novello Davies
Cantores Gymreig oedd Clara Novello Davies, a aned yn Nhreganna, Caerdydd (7 Ebrill 1861 – 1 Mawrth 1943). Roedd hi'n fam i'r actor a'r cyfansoddwr Ivor Novello a'r pianydd Marie Novello. Ffurfiodd gôr merched a deithiodd y byd, dysgodd lawer o gantorion a ddaeth yn safonol a sgwennodd hunangofiant yn 1940: The Life I have Loved.
Clara Novello Davies | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 Ebrill 1861 ![]() Caerdydd ![]() |
Bu farw | 7 Chwefror 1943 ![]() o clefyd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | arweinydd, canwr, cyfarwyddwr côr ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Plant | Ivor Novello ![]() |
MagwraethGolygu
Fe'i ganed i Jacob Davies a'i wraig Margaret, yn Nhreganna. Fe'i henwyd ar ôl y gantores enwog Clara Anastasia, merch Vincent Novello. Derbyniodd wersi cerdd gan ei thad a gan Dr. Frost, Frederick Atkins, Caerdydd, a Dr. Charles Williams, organydd Eglwys Gadeiriol Llandaf. Yn ferch ifanc, penodwyd hi'n gyfeilyddes Côr Undebol Caerdydd a'r Côr Rhuban Glas, a oedd yn cael ei arwain gan ei thad. Bu Côr Rhuban Glas yn hynod o lwyddiannus yng nghystadleuthau'r Palas Grisial.[1]