Clarence Kingsbury

Seiclwr trac Seisnig oedd Clarence Brickwood Kingsbury (3 Tachwedd 1882, Portsmouth, Hampshire[1][2]4 Mawrth 1949, Portsmouth[3]), a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd 1908, lle'r enillodd y fedal aur yn y ras 20 cilometr ac yn y Pursuit Tîm. Gorffennodd yn bumed yn y ras 5000 metr pan aeth allan o'r gystadleuaeth yn y rownd gyn-derfynol. Cystadlodd hefyd yn y gystaleuaeth sbrint gan fynd drwodd i'r rownd derfynol, ond ni wobrwywyd unrhyw fedalau gan i'r gystadleuaeth redeg yn hirach na'r cyfyngiad amser.[4]

Clarence Kingsbury
Ganwyd3 Tachwedd 1882 Edit this on Wikidata
Portsmouth Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 1949 Edit this on Wikidata
Portsmouth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
PlantLeoni Kingsbury, Thelma Kingsbury Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Roedd Kingsbury yn byw yn 41 Queens Road, Portsmouth, Hampshire yn ystod cyfrifiad 1901, rhestrwyd ei alwedigaeth fel 'Asiant Beiciau'.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru, Chwarter hydref/Rhagfyr 1882, Clarence Brickwood Kingsbury, ardal cofrestru Portsea Island, Cyfrol 2b, Tud. 458
  2. 2.0 2.1 1901 Census - 41 Queens Road, Portsmouth, Hampshire, RG 13/981, page 31 of 35
  3. Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru, Chwarter Ionawr/Mawrth 1949, Clarence B. Kingsbury, 66 oed, ardal cofrestru Portsmouth, Cyfrol 6b, Tud. 553
  4. Proffil ar databaseolympics.com
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.