Claudia Williams

arlunydd, artist (1933- )

Arlunydd oedd Claudia Jane Herington Williams (193319 Mehefin 2024)[1] a fu’n byw ac yn gweithio am y rhan fwyaf o’i hoes yng Nghymru. Roedd yn adnabyddus am ei phaentiadau, yn aml yn bortreadau mawr lliwgar.

Claudia Williams
Ganwyd1933 Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mehefin 2024 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Caterham School
  • Coleg Gelf Chelsea Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, artist Edit this on Wikidata
PriodGwilym Prichard Edit this on Wikidata

Cafodd Williams ei geni yn Purley yn Surrey a chafodd ei haddysg yn Ysgol Eothen yn Caterham cyn mynd i Ysgol Gelf Chelsea yn 1950.[2] Enillodd wobr gelf pobl ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerffili yn yr un blwyddyn.[3] Cynhwyswyd ei gwaith yn arddangosfa Paentio a Cherflunio Cymreig Cyfoes a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn 1957.[4]

Roedd ganddi chysylltiadau teulol Cymreig – mae’n debyg bod ei hen dad-cu yn ffermwr o Geredigion. Symudodd y teulu am gyfnod i Benrhyn Llŷn yn 1946 oherwydd straen y rhyfel.[5]

Bywyd personol

golygu

Symudodd Williams i Wynedd yn 1954 a chyfarfod â’i darpar ŵr, yr arlunydd Gwilym Prichard.[2] Bu’r ddau yn byw ym Môn ac yn Arfon, gan fagu pedwar o blant. Yn y 1980au dechreuon nhw deithio trwy Ewrop, gan fyw am gyfnodau ar Skiathos yng Ngwlad Groeg a ger Roc'h-an-Argoed yn Llydaw am dros 10 mlynedd, cyn dychwelyd i Gymru yn 1999.[6][7] Bu’r ddau yn cyd-fyw am 64 o flynyddoedd, cyn i Gwilym farw yn 2015.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Claudia Williams: Artist of 'joyous, colourful' work dies, 90". BBC News (yn Saesneg). 2024-06-19. Cyrchwyd 2024-06-19.
  2. 2.0 2.1 David Buckman (2006). Artists in Britain Since 1945 Vol 2, M to Z. Art Dictionaries Ltd. ISBN 0-953260-95-X.
  3. Peter Lord (2000). The Visual Culture of Wales: Imaging the Nation. University of Wales Press, Cardiff. ISBN 0708315879.
  4. Peter W Jones; Isabel Hitchman (2015). Post War to Post Modern: A Dictionary of Artists in Wales. Gomer Press. ISBN 978-184851-8766.
  5. "Cofio Claudia Williams". Golwg360. 2024-06-25. Cyrchwyd 2024-06-25.
  6. Karen Price (22 April 2013). "Capturing Wales: One of our best-loved artists is celebrated with a new book and major exhibition". WalesOnline. Cyrchwyd 11 February 2020.
  7. "New work on show by Welsh artist Claudia Williams". BBC News. 8 June 2016. Cyrchwyd 11 February 2020.