Gwilym Prichard

arlunydd (1931-2015)

Arlunydd o Gymru oedd Gwilym Arifor Prichard (ganwyd Pritchard; 4 Mawrth 19317 Mehefin 2015).

Gwilym Prichard
Ganwyd4 Mawrth 1931 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mehefin 2015, 2015 Edit this on Wikidata
Dinbych-y-pysgod Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Celf Birmingham Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, arlunydd, artist Edit this on Wikidata
PriodClaudia Williams Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni ym mhentref Llanystumdwy, ger Cricieth, Gwynedd, ac astudiodd celf yng Ngholeg Celf Birmingham cyn dychwelyd i Gymru fel athro yn Ynys Môn.[1] Caiff ei gofio'n bennaf am ei luniau "dramatig a lliwgar", gyda thirluniau garw, cryf ag iddynt ymdeimlad o 3-dimensiwn.[1] Mae ei luniau'n adlewyrchu ei gariad a'i hoffter o'i wlad, Cymru.[2] Daeth i sylw cenedlaethol am y tro cyntaf yn y 1960au ac yn 1970 cafodd ei benodi i Academi Brenhinol, Cambrian.[2]

Priododd yr arlunydd Claudia Williams yn 1953 pan newidiodd ei enw o Pritchard i'r fersiwn Cymraeg.

Arddull

golygu

Wedi'i nodi am ei ddarluniau "dramatig a lliwgar" o "dirweddau trwchus, creigiog, yn aml yn arswydus" gydag "ansawdd tri dimensiwn", [1] mae paentiadau Prichard" wedi llwyddo i ddangos ei lawenydd yng nghyfoeth a harddwch ei "wlad frodorol".[2] Dechreuodd ddod yn llwyddiannus yn ystod y 1960au, ac yn 1970 fe'i hetholwyd i'r Academi Frenhinol Gymreig.[2]

Bywyd proffesiynol

golygu

Ar ôl gadael gwaith cyflogedig yn gynnar yn y 1970au, daeth yn beintiwr llawn amser. Yn gynnar yn yr 1980au dechreuodd y cwpl deithio trwy Ewrop, gan fyw am gyfnodau yn Skiathos, Gwlad Groeg a Rochefort-en-Terre, Llydaw, cyn ymgartrefu yn Sir Benfro ym 1999.[3] Dyfarnwyd y Fedal Arian i Prichard gan y Société Académique des Arts-Sciences-Lettres de Paris ym 1995, ac roedd yn Gymrawd Anrhydeddus o Prifysgol Cymru .[2] Yn y blynyddoedd diweddarach roedd yn cael ei ystyried yn uwch beintiwr tirluniau byw yng Nghymru.[4] Cynhaliwyd arddangosfa fawr o'i waith yng Nghaerdydd yn 2013,[5] a monograph yn manylu ar ei waith, A Lifetime's Gazing, ei gyhoeddi yr un flwyddyn.[6][3]

Cyfeiriadau

golygu