Clawdd y Milwyr
Caer bentir yw Clawdd y Milwyr, sef math o fryngaer, a godwyd gan y Celtiaid yn Oes yr Haearn, ac a leolwyd ar begwn gorllewinol Pentir Dewi, Sir Benfro. O'r gorllewin i'r dwyrain mae'n 200 metr, a'c mae ei lled yn 80m, gyda wal amddiffynnol yn y dwyrain sy'n 80 m; ceir dwy wal allanol pellach er mwyn atgyfnerthu'r amddiffynfa.[1]
Enghraifft o'r canlynol | caer bentir |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 1000 CC |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Sir Benfro |
Credir fod y gaer wedi'i chodi gan y llwyth Celtaidd lleol, sef y Demetae. O fewn y gaer hon ceir o leiaf 8 tŷ crwn a chromlech ar y pwynt uchaf (SM72212790). Archwiliwyd y gaer yn 1898 gan Sabine Baring-Gould a chafwyd tystiolaeth o aneddiadau'n dyddio'n ôl i'r Oes Haearn Hwyr ac i gyfnod y Rhufeiniaid a chyn hynny. Ymhlith yr arteffactau a ganfuwyd y mae nifer o ddarnau i droelli edafedd, crochenwaith, a rhanau gwydr o fwclis.
Ceir sawl heneb arall gerllaw, gan gynnwys Coetan Arthur ac aneddiadau Celtaidd (Nprn24364) ar lethrau Carn Llidi.[2] Mae peth tystiolaeth diweddar yn dyddio'r gaer dipyn yn gynharach - i'r Oes efydd neu hyd yn oed i Oes Newydd y Cerrig.
-
Y tai crynion
-
Un o'r 8 tŷ crwn
-
Y fynedfa
-
Mur allanol
-
Un o'r 3 mur allanol
Ceir damcaniaeth ddiweddar sy'n nodi y gall fod mur allanol arall, cryn bellter o'r brif gaer (sy'n 3.4ha) yn gwahanu bron y pentir cyfan o weddill y tir mawr. Byddai hyn yn creu caer enfawr o 25 hectar, ac felly'n un o gaeri mwyaf Cymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ coflein.gov.uk; adalwyd 28 Mehefin 2022.
- ↑ (AC16 - 5ed gyfres), tt. 105-131 James 1982 'Roman West Wales', 37-8 Murphy 2001 (PPS67), tt 85-99.