Clough Williams-Ellis
Pensaer o Gymru oedd Syr Bertram Clough Williams-Ellis (28 Mai 1883 – 9 Ebrill 1978). Mae'n enwog am gynllunio'r pentref Eidalaidd Portmeirion ac fe'i urddwyd yn farchog ym 1971. Honai'r teulu eu bod yn ddisgynyddion i Owain Gwynedd.[1]
Clough Williams-Ellis | |
---|---|
Ganwyd | Bertram Clough Williams-Ellis 28 Mai 1883 Gayton |
Bu farw | 9 Ebrill 1978 Plas Brondanw |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pensaer, swyddog milwrol |
Tad | John Clough Williams-Ellis |
Mam | Ellen Mabel Greaves |
Priod | Amabel Williams-Ellis |
Plant | Susan Williams-Ellis, Christopher Williams-Ellis, Charlotte Rachel Anwyl Williams-Ellis |
Perthnasau | John Strachey |
Gwobr/au | Croes filwrol, CBE, Marchog Faglor |
Magwraeth a theulu
golyguGanwyd Williams-Ellis yn Swydd Northampton, Lloegr. Er iddo gael ei eni yn Lloegr, roedd ei deulu'n dod o Gymru a magwyd ef yng Nglasfryn, Pwllheli ers yn 4 oed. Roedd yn fab i'r parchedig John Clough Williams-Ellis (1833-1913) dringwr mynyddoedd nodedig iawn a'i fam oedd Ellen Mabel Greaves (1851-1941), merch perchennog chwareli llechi John Whitehead Greaves a chwaer John Ernest Greaves.[2]
Ym 1915 priododd ag Amabel Strachey a chawson nhw 3 o blant. Lladdwyd un mab, sef Christopher Moelwyn Strachey Williams-Ellis (1923-13 Mawrth 1944), yn yr Ail Ryfel Byd. Merch hynaf iddynt oedd Susan Williams-Ellis a sefydlodd waith crochenwaith yn 1961, gan ddefnyddio'r enw 'Portmeirion' ar y cynnyrch. Mae'r cerflunydd David Williams-Ellis yn or-nai i Clough Williams-Ellis ac wyr iddo yw'r llenor Robin Llywelyn. Gor-wyres iddo yw'r cynllunydd ffasiwn Rose Fulbright-Vickers.
Addysg
golyguFe'i addysgwyd yng Ngholeg (Oundle School) yn Swydd Northampton ac yna Coleg y Drindod, Caergrawnt, ond ni dderbyniodd radd. Trodd i'r Ysgol y Sefydliad Pensaernïaeth (Architectural Association School of Architecture), Llundain lle astudiodd rhwng 1903–04.
Tra'n fyfyriwr cafodd gomisiwn: tŷ haf "Larkbeare" ar gyfer Anne Wynne Thackeray a Mary Venables yn Cumnor, Swydd Rydychen, 1903-4 ac a orffennwyd yn 1907.
Gyrfa
golyguRoedd practis preifat ganddo o 1905 hyd 1914 ac ar ôl y Rhyfel y Byd Cyntaf o 1919 i 1978.
Yn ystod y Rhyfel y Byd Cyntaf roedd yn y Gwarchodlu Cymreig ac enillodd y Groes Filitaraidd.
Etifeddodd dŷ ei gyndadau, Plas Brondanw ger Llanfrothen ym Meirionnydd ym 1908 a phentref Portmeirion yn ystod y cyfnodau 1926-1939 a 1954-1972. Golygodd adeiladu Portmeirion gyflawni breuddwyd mawr iddo. Dangosodd i'r bobl bod datblygiad safle naturiol yn bosib heb ddinistrio'r amgylchedd a harddwch yr ardal.
Roedd Williams-Ellis yn un o gymrodorion y British Eugenics Society, cymdeithas o bobl a oedd yn credu y dylai 'dosbarth gweithiol gwrthyn ac annymunol (Saesneg: lower class undesirables) gael eu hatal rhag medru cenhedlu.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Clough Williams-Ellis family tree (Glasfryn) : Portmeirion - Welcome to the official Portmeirion village web site Archifwyd 8 Mehefin 2011 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Dr Ioan Bowen Rees yn Y Bywgraffiadur Arlein (LlGC).
- ↑ pocketbookuk.com;[dolen farw] adalwyd 11 Mawrth 2018.