Ioan Bowen Rees
cyfreithiwr a dringwr mynyddoedd (1929–1999)
Cyfreithiwr, swyddog llywodraeth leol ac awdur o Gymru oedd Ioan Bowen Rees (13 Ionawr 1929 – 4 Mai 1999).
Ioan Bowen Rees | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1929 Dolgellau |
Bu farw | 4 Mai 1999 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr, dringwr mynyddoedd |
Chwaraeon |
Ganed ef yn nhref Dolgellau yn fab i athro ysgol, ac astudiodd yn yr ysgol ramadeg ac yna Ysgol Bootham yn Efrog. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Frenhines, Rhydychen cyn dod yn gyfreithiwr i Gyngor Sir Ddinbych. Daeth yn Ysgrifennydd y Sir i'r hen Gyngor Sir Gwynedd yn 1974, ac yn ddiweddarach yn Brif Weithredwr y cyngor hyd ei ymddeoliad yn 1991.
Bu'n ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn etholaeth Conwy yn etholiadau 1955 a 1959 ac ym Merthyr Tydfil yn 1964. Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb Mynydda Cymru. Mae Gruff Rhys o'r Super Furry Animals yn fab iddo.
Cyhoeddiadau
golygu- Galwad y mynydd: chwe dringwr enwog (1961)
- The Welsh Political Tradition (1961)
- Dringo mynyddoedd Cymru (1965)
- Celtic Nationalism (gyda Gwynfor Evans, Hugh MacDiarmid ac Owen Dudley Edwards, 1968)
- Mynyddoedd: ysgrifau a cherddi (gyda John Wright, 1975)
- The Mountains of Wales (1987)
- Cymru heddiw: cenedl ynteu marchnad? (1989)
- Cymuned a Chenedl (1993)
- Cymuned a chenedl: ysgrifau ar ymreolaeth (1993)
- Beyond National Parks (1995)