Clwb Golff Penmaenmawr

Lleolir Clwb Golff Penmaenmawr ym mhentref Dwygyfylchi, sy'n rhan o gymuned Penmaenmawr, yn Sir Conwy, Cymru. Mae cwrs golff 18 twll y clwb yn gorwedd ar bwys Hen Ffordd Conwy, sy'n cysylltu Penmaenmawr a Chonwy dros Fwlch Sychnant. Sefydlwyd y clwb yn 1910.

Clwb Golff Penmaenmawr
Enghraifft o'r canlynolclwb golff, cwrs golff Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Clwb Golff Penmaenmawr gyda'r Alltwen yn y cefndir.

Agorwyd y clwb a'r cwrs - 9 twll yn wreiddiol - yn swyddogol ar 9 Mehefin 1910 gan y Cyrnol C. H. Darbishire. Gwahoddwyd David Lloyd George i'w agor ond bu rhaid iddo ddychwelyd o ogledd Cymru i Lundain yn annisgwyl.[1]

Mae adeilad y clwb yn llwyfan i ddigwyddiau cymdeithasol lleol megis cyngerddau, yn cynnwys nosweithiau Cymraeg.

Cyfeiriadau golygu

  1. Penmaenmawr Golf Club Diamond Jubilee 1910-1970. Souvenir Brochure. (Llanfairfechan, 1970).

Dolenni allanol golygu