Clwb Golff yr Eglwys Newydd
Mae Clwb Golff yr Eglwys Newydd (Saesneg: Whitchurch Golf Club) yn glwb golff wedi'i leoli yn Rhiwbeina maestref yng Nghaerdydd er ei bod wedi enwi ar ôl maestref arall, Yr Eglwys Newydd.[1]
Math | clwb chwaraeon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Mae'n gwrs golff parcdir 18-twll. Mae 'parcdir' ("park land") yn cyfeirio ar gyrsiau golff sydd, fel rheol, wedi eu creu yn y mewndir, nid yr arfordir ("links") ac yn cynnwys elfen o dirffurfio er mwyn creu amrywiaeth i'r cwrs (megis bynceri, bryncyniau, pyllau dŵr ag ati) ac yn ymdebygu i natur parc sydd wedi ei chynllunio gan ddyn nid natur mwy gwyllt cwrs arfordirol.[2]
Y golffiwr byd-enwog, Ian Woosnam, sy'n cadw record y clwb gyda par o 62. Yn 2005, 2006, a 2008 enillodd y clwb y wobr am y clwb golff gorau yng nghystadleuath Cymru yn ei Blodau[3] a chan “Welsh Club Golfer” fel “y gorau cwrs golff mewndirol yng Nghymru”. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd rhan o'r cwrs i dyfu llysiau.[4] The club welcomes visitors and society golf.
Hanes
golyguGwnaethpwyd penderfyniad i "ar linellau democrataidd" i’r Eglwys Newydd mewn cyfarfod "brwdfrydig" a gynhaliwyd nos Lun 3 Mai 1912. Cyhoeddodd y Parch T Ewbank, oedd yn llywyddu, fod Mr Herbert Thomas, un o berchenogion Gwaith Tunplat Melin Gruffydd, yn barod i roi benthyciad o £100 ymlaen i sefydlu cwrs golff da yn yr ardal. Nodwyd bod dau safle mewn golwg, un yn y Wenallt ger Fferm y Deri a'r llall ar y Graig.
Cymerodd ddwy flynedd arall i ddod o hyd i dir addas. Yn y diwedd daeth yn hysbys bod Pentref Gardd Rhiwbeina wedi rhoi’r gorau i opsiwn a oedd yn cael ei gynnal ar Fferm Pentwyn at ddibenion adeiladu. Daeth y tir hwn yn naw twll cyntaf Clwb Golff yr Eglwys Newydd. Ym 1922 prynwyd 45.25 erw arall o dir gerllaw Ffordd Pantmawr a fryn Rhiwbeina ac arweiniodd hyn at greu cwrs 18 twll a sicrhau dyfodol y Clwb.
Roedd cyfleusterau'r clwb yn y degawdau cyntaf yn gyntefig iawn - roedd gan tŷ'r glwb do gwellt, roedd gardd a stablau, dim trydan na nwy ac roedd y cyfleusterau toiled yn gyntefig iawn. Cynhaliwyd y cyfarfodydd blynyddol yn Neuadd Eglwys yr Eglwys Newydd.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd rhan helaeth o'r cwrs i dyfu llysiau i frwydro yn erbyn bygythiad y U-Boots yr Almaen. Parhaodd y dogni yn dilyn y Rhyfel ac ni chafodd y cwrs ei ailagor fel cwrs 18 twll tan 1950.[5]
Y Cwrs
golyguMae cynllun y cwrs yn parhau i fod yr un peth i raddau helaeth heddiw ag y gwnaeth pan agorodd y naw twll cyntaf ym 1915 a'r 18 twll ym mis Ebrill 1923. Tyst i sgil Fred Johns (y gweithiwr golff proffesiynol cyntaf a wasanaethodd y Clwb ers 42 mlynedd) a Mr Marjoram (golff proffesiynol Radur).[5]
Mae'r cwrs cyfredol yn dilyn y cynllun gwreiddiol heb law am dyllau rhif 4 ac 18 disodlwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf pan gollwyd tir i brosiect ffordd osgoi ffordd gyfagos.[6]
Cyfanswm 'par' y cwrs yw 71.[7]
Anrhydeddau
golyguMae Clwb Golff yr Eglwys Newydd wedi cynnal:[5]
- Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru 1975 (enillydd, Craig Defoy)
- Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru 1978 (enillydd, Brian Huggett)
- Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru 1986 (enillydd, Ian Woosnam)
- 1990 Pencampwriaeth Agored Prydain i Ferched
- 1990 Pencampwriaeth Ryngwladol Cartref Merched Prydain
- Pencampwriaeth Agored Merched Cymru 2007
- Pencampwriaeth Bechgyn Cymru 2008
- Pencampwriaethau Rhyngwladol Merched Cartref 2010.
- Pencampwriaeth Merched Cymru 2012
Enillodd un aelod, Nigel Edwards, capiau gan Gymru ond chwaraeodd mewn 4 gêm Cwpan Walker yn erbyn UDA yn 2001, 2003, 2005 a 2007.[5]
Aelodaeth
golyguMae'r clwb yn croesawu ymwelwyr a golff cymdeithas. Mae aelodaeth yn rhedeg dros y flwyddyn galendr ac yn cynnwys taliadau yn ôl amlder, oedran, a lleoliad.[8]
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogl Clwb Golff yr Eglwys Newydd
- @WhitchurchGC tudalen Facebook y Clwb
- @WhitchurchCardiffGC cyfrif instagram y Clwb
- Lleoliad y clwb ar wefan Coflein, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Welsh Golf Corses.com website; recalled 03 March 2014.
- ↑ "6 Types of Golf Courses Explained". Gwefan Golf.com. Cyrchwyd 19 Medi 2024.
- ↑ Jeff Davis and Jim Taverner, Whitchurch Gold Club Centenary, Living Magazines Cardiff, http://livingmags.co.uk/whitchurch-golf-club-centenary/, adalwyd 19 Medi 2024
- ↑ livingmaps website; accessed 11-04-2014
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 "History". Gwefan Clwb Golff yr Eglwys Newydd. Cyrchwyd 19 Medi 2024.
- ↑ "Whitchuch (Cardiff)". Top 100 Golf Courses. Cyrchwyd 19 Medi 2024.
- ↑ "Whitchurch (Cardiff)". Gwefan mScorecard. Cyrchwyd 19 Medi 2024.
- ↑ "Membership". Gwefan Clwb Golff yr Eglwys Newydd. Cyrchwyd 19 Medi 2024.