Clwb Valdai
Fforwm drafod wleidyddol yw Clwb Valdai (Rwseg: Клуб Валдай) sy'n cynnig fframwaith i arbenigwyr o Rwsia ac o sawl gwlad o gwmpas y byd gwrdd a thrafod Rwsia a'i rhan yn y byd a gwleidyddiaeth ryngwladol yn gyffredinol. Fe'i sefydlwyd yn 2004 gan yr asiantaeth newyddion Rwsiaidd RIA Novosti, y Cyngor ar Bolisi Tramor ac Amddiffyn, y papur newydd Saesneg Rwsiaidd The Moscow Times a'r cylchgrawn Russia Profile. Enwir y clwb ar ôl y Gwesty Valdai ar lan Llyn Valdayskoye yn ardal Bryniau Valdai lle cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar yr 2ail o Fedi 2004.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad sy'n ailadrodd, melin drafod, grŵp pwyso, propaganda |
---|---|
Math | clwb |
Dechrau/Sefydlu | 2004 |
Pencadlys | Moscfa |
Enw brodorol | Междунаро́дный дискуссио́нный клуб «Валда́й» |
Gwladwriaeth | Rwsia |
Gwefan | http://valdaiclub.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dolennni allanol
golygu- ValdaiClub.com[dolen farw], gwefan swyddogol
- Rhagor o wybodaeth Archifwyd 2011-06-05 yn y Peiriant Wayback ar wefan RIA Novisti (Saesneg)
- Valdai ar Twitter