Clywch Lu'r Nef (carol Nadolig)
Mae Clywch Lu'r Nef yn emyn Nadolig, neu garol, Cristnogol sy'n addasiad i'r Gymraeg o'r carol Saesneg Hark! the Herald Angles Sing gan Charles Wesley. Mae'n emyn rhif 452 yn Caneuon Ffydd,[1] y Llyfr Emynau Cydenwadol a gyhoeddwyd yn 2001. Mae'n cael ei chanu fel arfer i addasiad o'r dôn Vaterland, in deinen Gauen gan Felix Mendelssohn.
Llu'r Nef yn cyhoeddi genedigaeth yr Iesu i'r Bugeiliaid | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, Emyn Nadolig, gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Awdur | Charles Wesley, George Whitefield |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1739 |
Genre | carol Nadolig |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cyfansoddwr | Felix Mendelssohn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Saesneg Gwreiddiol
golyguYsgrifennodd Charles Wesley'r garol yn ystod cyfnod y Nadolig 1738. Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn Eglwys Santes Fair, Islington, Llundain ar ddydd Nadolig yr un flwyddyn mewn gwasanaeth â oedd yn cael ei harwain gan Wesley. Cafodd ei gyhoeddi gyntaf ym 1739 yn Hymns and Sacred Poems casgliad o emynau a olygwyd gan John Wesley, brawd Charles. Enw'r carol yng nghasgliad John Wesley oedd Hymn for Christmas-Day.[2]
Roedd yr emyn a gyhoeddwyd gan John Wesley yn un o 10 pennill 4 llinell o hyd a heb gytgan. Geiriau agoriadol yr emyn oedd Hark how all the welkin rings. Gair Saesneg canol yw welkin, oedd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd farddonllyd ar gyfer yr awyr, y wybren, y nefoedd ac ati.[3] Gan na fyddai pobl gyffredin yn gyfarwydd ag ystyr welkin mae'n bosib na fyddai'r carol mor boblogaidd ac ydyw o hyd pe na fyddai wedi ei newid i'r geiriau mwy cyffredin Hark! The Herald Angles Sing.[4] George Whitefield oedd yn gyfrifol am newid y llinell agoriadol ar gyfer ei gasgliad Collection of hymns for social worship (1754).[5]
Cafwyd newid arall i emyn gwreiddiol Wesley yn argraffiad 1782 o The Tate and Brady New Version of the Psalms of David, lle cyhoeddwyd addasiad Whitefield gydag ail adroddiad o gwpled agoriadol yr emyn Hark! The Herald Angels sing / Glory to the newborn king fel cytgan ar ôl pob pennill.
Mae'r fersiwn Saesneg mwyaf cyffredin bellach yn cynnwys 3 pennill 8 llinell, gyda'r cytgan.
Gelli'r dilyn datblygiad yr emyn Saesneg o'r gwreiddiol i'r cyffredin cyfoes ar Hark! The Herald Angels Sing, Wikisource Saesneg
Addasiad i'r Gymraeg
golyguMegis y fersiwn Saesneg, mae'r carol Cymraeg fel y cenir heddiw wedi mynd trwy lawer o fersiynau. Mae'r fersiwn sydd yn Caneuon Ffydd yn gyfuniad o dri ymgais i'w gyfieithu:[6]
- Pennill cyntaf: o gasgliad Pedr Fardd a gyhoeddwyd yn gyntaf yn Crynoad o Hymnau (1830)
- Daw'r ail bennill gan gyfieithydd anhysbys a ymddangosodd gyntaf yng nghasgliad Edward Stephens (Tanymarian) Llyfr Tonnau ac Emynau (1868).
- Ymddangosodd y trydydd pennill, addasiad gan Elis Wyn o Wyrfai, yn Hymnau yr Eglwys (1886).
Fersiwn cyfansawdd o'r tri yw'r un sy'n cael ei ganu, gan amlaf, yn y Gymraeg heddiw.
Emyn dôn
golyguDymuniad Charles Wesley oedd cael tôn araf a difrifddwys ar gyfer ei gerdd. Does dim cofnod o'r tôn gwreiddiol. Ym 1840 - gan mlynedd ar ôl cyhoeddi'r emyn gyntaf yn Hymns and Sacred Poems - cyfansoddodd Mendelssohn cantata i goffáu dyfeisio'r argraffwasg teip symudol gan Johann Gutenberg; cerddoriaeth o'r cantata hwnnw, wedi'i haddasu gan y cerddor Saesneg William H. Cummings i gyd-fynd â geiriau "Hark! The Herald Angels Sing", sy'n dôn i'r garol sy'n hysbys heddiw, ym mron pob iaith, gan gynnwys y Gymraeg.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Caneuon Ffydd, Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol, Gwasg Gomer 2001 rhif 452
- ↑ Hymns and sacred poems. Wesley, John, 1703-1791; Wesley, Charles, 1707-1788 adalwyd 23 Rhagfyr 2020
- ↑ "welkin, (n)" OED Online. Oxford University Press. adalwyd 21 Rhagfyr, 2020
- ↑ James, E Wyn, Carolau a'u Cefndir, tud. 24, Gwasg Efengylaidd Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, 1989 ISBN 9781850490678
- ↑ A Collection of Hymns for Social Worship, More Particularly Designed for the Use of the Tabernacle and Chapel Congregations in London (London: William Straham, 1758)
- ↑ Delyth G. Morgans; Cydymaith Caneuon Ffydd tud 155; Pwyllgor Caneuon Ffydd; 2008; ISBN 9781862250529
- ↑ "Hark The Herald Angels Sing - Version 1". www.hymnsandcarolsofchristmas.com. Cyrchwyd 2020-12-22.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |