Robert Brown
Botanegydd a phaleontolegydd o'r Alban oedd Robert Brown FRSE FRS FLS MWS (21 Rhagfyr 1773 – 10 Mehefin 1858)[1] . Bu'n un o'r cyntaf i ddefnyddio'r microsgop optegol ar ei wedd fodern. Trwy hynny, cyflwynodd y disgrifiad sylweddol cyntaf o gnewyllyn y gell ac o symudedd sytoplasmig. Yn hynny o beth bu'n un o sylfaenwyr gwyddor bioleg y gell.
Robert Brown | |
---|---|
![]() | |
Ynganiad |
LL-Q13955 (ara)-Spotless Mind1988-روبرت براون.wav ![]() |
Ganwyd |
21 Rhagfyr 1773 ![]() Montrose ![]() |
Bu farw |
10 Mehefin 1858 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth |
botanegydd, pteridologist, mwsoglegwr, llyfrgellydd, llawfeddyg, milwr, curadur, meddyg, mycolegydd, ffisegydd, naturiaethydd ![]() |
Swydd |
llywydd corfforaeth ![]() |
Gwobr/au |
Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Honorary Fellow of the Royal Society of Edinburgh, Cymrawd Academi Celf a gwyddoniaeth America ![]() |
Canfyddodd symudedd Brown, a enwyd ar ei ôl. Mae'n enghraifft brin o fotanegydd yn cyfrannu'n sylweddol i fyd ffiseg.) Bu gwaith Albert Einstein ar symudedd Brown yn allweddol yn ei syniadau yntau, ac yn rhan o'r ddadl ehangach i brofi bodolaeth atomau.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ http://www.brianjford.com/wbbrowna.htm (Yn 2016 roedd Brian Ford yn wyddonydd annibynnol dylanwadol; graddiodd o Brifysgol Caerdydd yn 1961. Treuliodd amser yn ymchilio i hanes y microsgop.)