Cnocell fraith fawr

rhywogaeth o adar
Cnocell fraith fawr
Picoides major

, ,

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Piciformes
Teulu: Picidae
Genws: Dendrocopos[*]
Rhywogaeth: Dendrocopos major
Enw deuenwol
Dendrocopos major



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell fraith fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau brith mawr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picoides major; yr enw Saesneg arno yw Great spotted woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. major, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Cnocell ganolig o ran maint yw'r Gnocell Fraith Fwyaf, tua 23–26 cm o hyd a 38–44 cm ar draws yr adenydd. Mae'n byw mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a chaeau. Du a gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae gan y ceiliog ddarn coch ar y gwegil tra mae pen yr iar yn ddu a gwyn i gyd. Aderyn ieuanc sydd yn y llun, yn dangos y coch ar dop y ben sy'n nodweddiadol o adar yn eu blwyddyn gyntaf. Gellir gwahaniaethu'r gnocell yma oddi wrth y Gnocell Fraith Leiaf trwy fod gan y Gnocell Fraith Fwyaf goch ar ran gefn y bol, sy'n absennol yn y Gnocell Fraith Leiaf, a'r gwahaniaeth mawr mewn maint.

Yn enwedig yn y gwanwyn, gellir clywed y cnocell yma yn "drwmio", sef curo coeden yn gyflym a'i big i wneud sŵn y gellir ei glywed am gryn bellter. Mae'n byw ar bryfed sydd yn tyllu i mewn i goed fel rheol, ond gall hefyd ddefnyddio ei big nerthol i dorri trwy bren i fwyta cywion adar eraill sy'n nythu mewn tyllau mewn coed.

I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal. Y gnocell yma yw'r gnocell fwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Teulu golygu

Mae'r cnocell fraith fawr yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Cnocell Folwen Dryocopus javensis
 
Cnocell Magellan Campephilus magellanicus
 
Cnocell ddu Dryocopus martius
 
Cnocell fraith Japan Yungipicus kizuki
 
Cnocell gorunfrown Yungipicus moluccensis
 
Corgnocell Temminck Yungipicus temminckii
 
Corgnocell y Philipinau Yungipicus maculatus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Cnocell fraith fawr gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.