Coety
pentref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Pentref o fewn Cymuned Coety Uchaf yw Coety, a saif ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yma boblogaeth o 2,071 yng Nghyfrifiad 2011. Yn y pentref mae Castell Coety, lle bu'r fyddin Gymreig, dan arweiniad y Tywysog Owain Glyn Dŵr yn gwarchae am dros flwyddyn a thri mis; yma hefyd y defnyddiwyd powdwr gwn yng Nghymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddus.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5212°N 3.5525°W ![]() |
Cod OS | SS923814 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae'r hen eglwys, y Santes Fair, yn dyddio i'r 14g.[1] Ceir yma hefyd heneb llawer hynach, sef siambr gladdu ger coedwig Coed Parc Garw. Ceir carreg draws sy'n gwyro i fyny rhyw ychydig a nifer o gerrig llai sy'n ei gynnal.[2]
Saif Mynydd Coety (y ffin) gerllaw, gyda'i gopa'n ffin rhwng Castell-nedd a Chas-gwentcyfeiriad grid SO232080.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru. Caerdydd: University of Wales Press. t. 160. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ Daniel, Glynn (1950). The prehistoric chamber tombs of England and Wales. Cambridge: Cambridge University Press. t. 210.