Gair, ymadrodd, delwedd neu unrhyw ddyfais feddyliol arall sy'n cynorthwyo'r cof yw cofair[1] neu mnemonig.[2] Egwyddor y dechneg hon yw i greu yn y meddwl strwythur sy'n ymgorffori delweddau syml neu unigryw er mwyn dwyn i'r cof syniadau sydd fel arall yn anodd eu hatgofio.

Cofair gweledol i ddysgu côd Morse drwy ddychmygu'r dotiau a'r dashiau yn ffurfio siâp eu llythrennau.

Ceir nifer o gofeiriau poblogaidd ar ffurf brawddegau bachog, rhigymau neu benillion cwta, acronymau, ac acrostigau. Defnyddid systemau mnemonig cymhlyg megis dull loci ers cyfnod yr hen Roegwyr a'r Rhufeiniaid: mae'r unigolyn yn creu symbolau, straeon neu strwythurau arall yn ei feddwl er mwyn cofio nifer fawr o ffeithiau a chysyniadau. Ymhlith yr amryw ddulliau mnemonig eraill mae cysylltu geiriau â'i gilydd, cysylltu rhifau â geiriau neu siapiau (er enghraifft ffon am 1, alarch am 2, ac ati), a gosod gwybodaeth mewn grwpiau (dull poblogaidd i gofio cyfresi o ddigidau megis rhifau ffôn).[3]

Enghreifftiau o gofeiriau Cymraeg golygu

Gellir cofio seithliw'r enfys drwy sylwi ar briflythrennau'r geiriau yn y frawddeg: "Caradog o'r Mynydd Gafodd Gig I'w Fwyta" (Coch, Melyn, Gwyrdd, Glas, Indigo, Fioled).[4]

Arferid plant ysgol ddysgu'r planedau yng Nghysawd yr Haul drwy'r frawddeg: "Mewn Gwely Du y Mae Ianto'n Sâl Wedi Naw" (Mercher, Gwener, Daear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion).

Gellir canu'r arddodiaid Cymraeg i dôn y gân werin "Migildi Magildi" er mwyn eu cofio: "Am, ar, at, gan, heb, i, o, dan, dros, trwy, wrth, hyd, hei now now".

Mathemateg golygu

Mae'r mnemonigau canlynol yn seiliedig yn bennaf ar nodiadau gan Dr Gareth Evans, Pennaeth Adran Mathemateg Ysgol y Creuddyn, Conwy[5]:

1. CORLAT
Cromfachau O flaen Rhannu Lluosi Adio Tynnu

Mae'n cyfleu trefn gweithrediadau. Mae'n bosibl i'r cofair hwn ddod o'r un tebyg Saesneg BODMAS neu BIDMAS; yn anffodus nid yw'r un Gymraeg yn sôn am bwerau/indecsau fel yn yr un Saesneg (nid yw CPRLAT neu CIRLAT yn swnio ru'n fath rhywsut!)

2. CAMO
Cyntaf Allanol Mewnol Olaf

Cofair sy'n atgoffa'r person sut i ehangu cromfach ddwbl (a + b)(c + d)

CYNTAF ac
ALLANOL ad
MEWNOL bc
OLAF bd
3. F/Ll (wedi ei osod fel ffracsiwn)
Fertigol rhannu efo Llorweddol

Canllaw i gofio sut i gyfrifo graddiant llinell, ond y mnemonig yw "Ffrâm dros y llun". Y syniad fan hyn yw bod myfyrwyr yn aml yn cyfrifo Llorwedd ÷ Fertigol yn lle Fertigol ÷ Llorwedd, felly gan gofio "Ffrâm dros y llun" maent yn cofio i wneud Fertigol ÷ Llorweddol yn gywir. Mae'n bosib rhoi ffrâm dros lun, ond nid yw'n bosib rhoi llun dros ffrâm!

4. SCH-CAH-TCA
Dyma'r fersiwn Gymraeg o SOHCAHTOA, gyda "Cyferbyn; Agos; Hypotenws" yn lle "Opposite; Adjacent; Hypotenuse". Yn aml trefnir cystadleuaeth rhwng y disgyblion i lunio mnemonig ar gyfer hwn.

Mae’r actor Maureen Rhys yn dwyn i gof y mnemonig Cododd Alun Hughes // Saith O Hogia // Tew O’r Afon

er mwyn helpu cofio’r cymarebau trigonometrig – dull y mae’n ei gofio o’i dyddiau yn Ysgol Brynrefail o’r 1950au. Ond, wrth gwrs, mnemonig Cymraeg yw hwn i gofio’r cymarebau Saesneg (SOHCAHTOA).

Cyfeiriadau golygu

  1.  cofair. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 12 Mawrth 2016.
  2.  mnemonig. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 12 Mawrth 2016.
  3. (Saesneg) mnemonic. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Mawrth 2016.
  4. D. Geraint Lewis. Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 44.
  5. Drwy law Dr Gareth Ffowc Roberts.