Rhyfeddod neu ffenomenon optegol a meteorolegol yw enfys (Hen Lydaweg: envez; 'cylch neu 'fodrwy'), pan fydd sbectrwm o olau yn ymddangos yn yr awyr pan fo'r haul yn disgleirio ar ddiferion o leithder yn atmosffer y ddaear. Mae'n ymddangos ar ffurf bwa amryliw, gyda choch ar ran allanol y bwa, a dulas ar y rhan fewnol. Caiff ei greu pan fo golau o fewn diferion o ddŵr yn cael ei adlewyrchu, ei blygu (neu ei wrthdori) a'i wasgaru.

Enfys hanner-crwn ddwbl. Cysgod pen y ffotograffydd yw 'pwynt canol' neu 'dardd' y cylchedd.
Sut y ffurfir enfys sengl ac enfys ddwbwl (yr ail enfys):
1. Diferyn siap sffêr
2. Y mannau ble ceir adlewyrchiad mewnol y golau
3. Enfys sengl
4. Y mannau ble ceir plygiant golau
5. Enfys ddwbwl
6. Paladr o olau gwyn yn dod i fewn
7. Llwybr y golau sy'n creu'r enfys syml
8. Llwybr y golau sy'n creu'r ail enfys
9. Y gwyliwr
10. Y mannau ble ffurfir yr enfys syml
11. Y mannau ble ffurfir yr ail enfys
12. Y rhan o'r atmosffer ble y ceir llawer o ddiferion

Mae enfys yn ymestyn dros sbectrwm di-dor o liwiau; mae'r bandiau a welir yn ganlyniad i olwg lliw pobol. Disgrifir y gyfres o liwiau'n gyffredinol fel coch, oren, melyn, gwyrdd, glas, indigo a fioled. Gellir eu dwyn i'r cof wrth adrodd y cofair:

Caradog o'r mynydd gafodd gig i'w fwyta".[1]

neu

Collodd Owain Morgan Gar Glas Pan Faglodd (coch oren melyn gwyrdd glas porffor fioled)[2]

Gall yr enfys fod ar ffurf cylch cyfan ond dim ond rhan ohoni mae'r gwyliwr cyffredin, fel arfer, yn gweld ohoni - bwa'n unig ac nid cylch.[3]

Gall enfys gael ei achosi gan ffurfiau eraill o ddŵr heblaw glaw, megis niwl, olew a gwlith.

Nid yw enfys wedi'i leoli mewn un lle, ond mae'n ymddangos mewn rhith optegol i'r gwyliwr ei fod. Ongl y golau, wrth iddo blygu o fewn y diferion sy'n achosi hyn, mewn perthynas i ongl y gwyliwr a tharddiad y golau (yr haul yn yr achos hwn). Nid yw'r enfys felly'n wrthrych sy'n bodoli mewn un man, ac ni fedrir ei gyffwrdd. Dim ond ar ongl o 42 gradd o'r cyfeiriad dirgroes y gellir ei weld.

Mathau o enfys

golygu
  • Enfys wen (dydd)
Wedi ei gymryd drwy niwl ar Lyn Tinaroo, Queensland yn ystod y dydd (bora) 21 Gorffennaf 2014. Y niwl sy’n gwanhau’r lliwiau fel ei bod yn ymddangos yn wen. (Enfys wen yn y nos = 1) cylch ymhell o gwmpas y lleuad, neu 2) enfys arferol yn y nos, fel cofnododd Ed. Llwyd. Golau’r lleuad ddim digon cry’ i roi lliwiau, onibai dy fod yn gamera.)


  • Enfys Wen (nos)

Dyma adroddiad Ifor Williams a dynnodd y llun hwn a'i gamera ar 1af Rhagfyr 2009:

"Gwelais hwn am bum munud wedi chwech nos Fawrth Rhagfyr y cyntaf 2009. Fel y tybiech roedd hi'n dywyll (yn wyntog ac yn glawio a’r lleuad y tu cefn i mi). Dydi’r llun ddim yn dangos y tywyllwch (y camera wedi ei osod ar 1600ISO 8 eiliad o noethiad ar f/3.5 +hanner stop) sydd yn golygu bod y camera wedi gweld hwn fel pe tai yng ngolau dydd. I'r llygad dim ond fel enfys lwyd oedd hi, ond mae'r lliwiau i'w gweld yn glir gan y camera. Rwyf wedi tywyllu'r llun hefyd!"[4]

Dyma gofnododd Edward Llwyd yn ei Parochialia yn 1699:

LHAN VAIR DYFFRYN CLWYD
Y Kreigie: The Rocks
A Rainbow was seen here in ye night July 27 [16]99[5]


  • Rhith y Brocken

Fe'i gelwir hefyd yn Fwa Brocken neu Rhith Fynydd: delwedd o fwa, gyda chysgod chwyddedig y sylwedydd ynddo, wedi ei fwrw ar y cymylau gyferbyn a chyfeiriad yr haul. Cofnodwyd llewyrch y bugail fel enw gan Llinos Jones-Williams, ond heb darddiad[2]

Tynnwyd llun o rith y Brocken wrth edrych i lawr ar adeiladau uwchben San Francisco ar Awst 26, 2006 o sea-plane fechan i weld y ddinas o'r awyr; ein gobaith mwyaf oedd gweld y Golden Gate Bridge ond siom a gawsom, daeth niwl trwchus i'w gorchuddio - mae hyn yn beth arferol yn yr ardal, fel y gwyddoch. Yr oedd yr haul yn disgleirio `union` uwch ein pennau ac ymhen ychydig, sylwais ar y cwmwl oddi tanom - gwelwn gysgod yr awyren mewn cylch o enfys.[6]

Enwau amgen ar Rhith Brocken:
Dyma rai termau a gynigwyd[3]:
bwgan niwl
bwgan Brocken
ysbryd y niwl
llewyrch y bugail

  • Cylch o gwmpas yr haul

Cylch haul 22°, a ffurfiwyd gan adlewyrchiad solar ar grisialau rhew yn y cymylau Cirrostratus sy’n ymledu o’r de orllewin. Mae’r cymylau Cs yn rhaflaenu ffrynt cynnes.[7]

Cylch 28 Rhagfyr 2009:

Am ychydig ar ôl 11 o'r gloch fore’r 28 Rhagfyr 2009 cefais alwad ffôn gan Twm Elias o gyffiniau Cwm Dulyn, Dyffryn Nantlle yn tynnu fy sylw at gylch o gwmpas yr haul. "Dos allan" meddai, "a gyda dy fraich wedi ei ymestyn o'th flaen, dyro dy fawd dros yr haul a'th law ar led ac mi weli di gylch golau o'i gwmpas tua lle mae dy fys bach yn cyrraedd". Dyma fynd i edrych, ac, ia, dyna lle’r oedd o yn union fel y'i disgrifiodd.. "Cylch yn bell - glaw yn agos" yw'r arwydd meddai Twm. A do, cafwyd gwyntoedd mawr y noson honno.[8]

Geirdarddiad

golygu

Mae'n debyg mai hen air Celtaidd yw enfys; gwyddys fod y gair Llydaweg envez ar gael cyn iddo gael ei gofnodi yn y Gymraeg am y tro cyntaf, sef yn 1346 (LlA 13): na bu dafyn glaw. ac na bu envys ac yna yn y 14g: (DB 101): A’r envys (arcus) yn yr awyr, petwar lliwawc vyd.[9]

Gweler hefyd

golygu
  • Opteg
  • Enfys y gors - Iris Pseudacorus, blodyn bychan
  • Blodau'r enfys ('seithliw'r enfys', neu'n safonol: 'Trilliw ar ddeg' - hydrangea, Hydrangea macrophylla; nasturtium
  • Enfys y llygad - 'iris' y llygad

Cyfeiriadau

golygu
  1. D. Geraint Lewis. Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 44.
  2. Twm Elias, Am y Tywydd, Gwasg Carreg Gwalch
  3. "Dr. Jeff Masters Rainbow Site".
  4. Ifor Williams, Bwletin Llên Natur 23
  5. Parochialia Edward Llwyd (copi yn Archifdy Gwynedd)
  6. Brenda Jones, Llanwnda ym Mwletin Llên Natur rhifyn 30
  7. Huw Jones ym Mwletin Llên Natur 49 (cyfieithiad)
  8. Mwy yn Elias (2008): Am y Tywydd. Gwasg Carreg Gwalch: llun Bwletin Llên Natur rhifyn 24 [1]
  9.  enfys. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Awst 2022.
Chwiliwch am enfys
yn Wiciadur.