Cofiant Daniel Owen: ynghyda Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau
Mae Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau, gan John Owen yn gofiant a gyhoeddwyd gan Argraffwasg Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1899.[1]
Cefndir
golyguMae'r gyfrol yn adrodd hanes Daniel Owen (20 Hydref 1836 – 22 Hydref 1895).[2] Roedd yn un o lenorion mwyaf blaengar y 19g yn yr iaith Gymraeg a gofir fel un o arloeswyr mawr y nofel yn Gymraeg.[3]
Cynnwys
golyguMae'r cofiant yn sôn am ei gefndir teuluol, ei ieuenctid a'i fagwraeth yn Yr Wyddgrug a'i addysg elfennol yn ysgol yr Eglwys. Mae'r llyfr yn adrodd hanes ei brentisiaeth yn deiliwr a disgrifiad o'r trafodaethau ar bynciau diwinyddol, gwleidyddol a llenyddol a cheid yn siop y teiliwr ar y pryd. Ceir disgrifiad o'i gyfnod fel myfyriwr yng Ngholeg y Bala ac eglurhad o'r amgylchiadau a achosodd iddo roi'r gorau i'w dymuniad o fod yn weinidog a dychwelyd adref i ail afael yng ngwaith y teiliwr. Mae'r cofiant yn nodi gwaith Owen fel gŵr cyhoeddus yn ei fro, fel cefnogwr selog i'r Blaid Ryddfrydol, fel cynghorydd dinesig ac fel Ynad Heddwch. Wedi trafod ei gystudd olaf ei farwolaeth a'i gladdedigaeth ceir ysgrifau coffa amdano gan dri o'i gydnabod. Mae'r cofiant yn dod i ben gyda thrafodaeth am ei weithiau llenyddol a'i nodweddion fel awdur. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4] (Mae'r copi ar lein wedi ei rhwymo gyda chopi o nofel gyntaf Owen Offrymau Neilltuaeth, ond nid yw'n rhan o'r cofiant). Mae copï o'r llyfr hefyd ar gael ar Wicidestun
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Penodau
golyguMae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:
(Mae'r dolenni yn arwain at draws ysgrif pennod y llyfr ar Wicidestun)
- Mebyd ac Ieuenctid
- Ei Addysg
- Ei brentisiaeth
- Yn Dechrau Cyfansoddi Barddoniaeth
- Yn Dechrau Pregethu
- Yn gadael Coleg y Bala
- Materion Cyhoeddus a Threfol
- Ei Gystudd a'i Farwolaeth
- Ei gladdedigaeth
- Ei garreg fedd a'i hargraff
- Ei ewyllys
- Ei Gofadail
- Atgofion Mr John Morgan (Rambler)
- Sylwadau'r Parch. Ellis Edwards, M.A., ar gymeriad ac athrylith Daniel Owen.
- Disgrifiad gan Mr John Lloyd (Crwydryn), Treffynnon
- Hanes Ei Weithiau Llenyddol
- Sylwadau am ei Nodweddion fel Ysgrifennydd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Owen, John (1899). Cofiant Daniel Owen: ynghyda Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau. Wrecsam: Hughes a'i Fab.
- ↑ "DEATH OF MR DANIEL OWEN - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1895-10-25. Cyrchwyd 2019-11-03.
- ↑ "OWEN, DANIEL (1836 - 1895), nofelydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-12-03.
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.