Cofiant a phregethau y Parchedig D. Saunders, D.D

Mae Cofiant a phregethau y Parchedig D. Saunders, D.D, dan olygyddiaeth W. James a John Morgan Jones yn gofiant a gyhoeddwyd gan Argraffwasg Lewis Evans, 13 castle Street, Abertawe ym 1894.[1]

Cefndir golygu

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes David Saunders (20 Mai 183119 Hydref 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a anwyd yng Nghastellnewydd Emlyn a bu farw yn Aberdâr.[2]

Cynnwys golygu

Mae'r cofiant yn sôn am hanes ei fagwraeth a'i ieuenctid yn Llanbedr Pont Steffan a Threforys a'i waith cyntaf fel saer. Mae'r llyfr yn trafod yr addysg derbyniodd yn ysgolion Abertawe, Coleg Normal Abertawe a Choleg Trefeca a Phrifysgol Glasgow. Ceir ei hanes fel gweinidog ym Mhenclawdd, Bro Gŵyr, Aberdâr, Lerpwl, Abercarn a Lerpwl eto. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys cofnod o 19 o'i bregethau. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[3]

Penodau golygu

Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:

  1. Ei Rieni
  2. Ei Enedigaeth
  3. Ei Febyd
  4. Dechrau Pregethu
  5. Yn yr Athrofa
  6. Yn Aberdâr
  7. Yn Liverpool
  8. Yn Abercarn
  9. Yn Abertawe
  10. Nodweddion ei Gymeriad
  11. Nodweddion ei Bregethu.
  12. Ei Gystudd, ei Angau, a'i Gladdedigaeth

Cyfeiriadau golygu

  1. James, W; Jones, John Morgan, gol. (1894). Cofiant a phregethau y parchedig D. Saunders. Abertawe: L. Evans.
  2. "SAUNDERS, DAVID (1831 - 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, pregethwr huawdl | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-28.
  3. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.