Coety
pentref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
(Ailgyfeiriad o Coity)
Pentref yng nghymuned Coety Uchaf, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Coety[1] (Saesneg: Coity).[2] Saif Mynydd Coety (y ffin) gerllaw, gyda'i gopa'n ffin rhwng Castell-nedd a Chas-gwentcyfeiriad grid SO232080.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Coety Uchaf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5212°N 3.5525°W |
Cod OS | SS923814 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au y DU | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
Roedd yma boblogaeth o 2,071 yng Nghyfrifiad 2011.
Yn y pentref mae Castell Coety, lle bu'r fyddin Gymreig, dan arweiniad y Tywysog Owain Glyn Dŵr yn gwarchae am dros flwyddyn a thri mis; yma hefyd y defnyddiwyd powdwr gwn yng Nghymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddus.
Mae'r hen eglwys, y Santes Fair, yn dyddio i'r 14g.[3] Ceir yma hefyd heneb llawer hynach, sef siambr gladdu ger coedwig Coed Parc Garw. Ceir carreg draws sy'n gwyro i fyny rhyw ychydig a nifer o gerrig llai sy'n ei gynnal.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 3 Gorffennaf 2023
- ↑ British Place Names; adalwyd 3 Gorffennaf 2023
- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru. Caerdydd: University of Wales Press. t. 160. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ Daniel, Glynn (1950). The prehistoric chamber tombs of England and Wales. Cambridge: Cambridge University Press. t. 210.