Coleg Merthyr Tudful

coleg addysg bellach ym Merthyr Tudful

Mae Coleg Merthyr Tudful (Saesneg: Merthyr Tydfil College ) yn goleg addysg bellach wedi'i leoli ym Merthyr Tudful. Rhwng Mai 2006 ac Ebrill 2013, roedd yn goleg cyfansoddol i Brifysgol Morgannwg ac wedi hynny yn goleg i Brifysgol De Cymru (wedi i'r sefydliad newid ei henw).

Coleg Merthyr Tudful
Enghraifft o'r canlynolcoleg addysg bellach Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLlyfrgell Coleg Merthyr Edit this on Wikidata
Map
PencadlysMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
RhanbarthMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.merthyr.ac.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Camwps newydd Coleg Merthyr

Cyn dod o dan adain y brifysgol lleol, roedd y coleg yn sefydliad annibynnol, ond daeth yn rhan o Grŵp Prifysgol Morgannwg ym mis Mai 2006. Er ei fod yn un o golegau cyfansoddol y brifysgol, nid yw Coleg Merthyr Tudful yn rhan swyddogol o'r brifysgol. Bellach, mae’n cael ei redeg gan Brifysgol De Cymru fel sefydliad ar wahân, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gynnig addysg bellach i’r gymuned leol ym Merthyr Tudful. Mae'r Coleg yn rhan o rwydwaith y sector, ColegauCymru.

Lleoliad golygu

 
Hen Neuadd y Dref Merthyr, safle'r 'Tŷ Coch' campws arall y Coleg
 
Derbynfa'r campws newydd yn Ynysfach
 
Mynedfa campws Ynysfach

Ceir dau gampws fel rhan o Goleg Merthyr. Mae'r campws newydd yn Ynysfach a'r Tŷ Coch (Red House - hen neuadd y dref Merthyr) yng nghannol y dref. Agorwyd yn dilyn ad-drefnu addysg ôl 16 oed yn Sir Merthyr gan gau adrannau 6ed dosbarth yr ysgolion uwchradd lleol - a fu'n benderfyniad amhoblogaidd gan nifer.

Agorwyd y campws newydd yn Ynysfach ym mis Medi 2013. [1]

Mae'r cyrsiau yn Ynysfach yn cynnwys: 30 Ystafell ddosbarth, 19 Ystafell TG, 8 Ystafelloed Ymarferol Celfyddydau Creadigol, Ystafell Cerameg, Stiwdio Ffotograffiaeth ac Ystafell Dywyll, 5 Labordy Gwyddoniaeth, 3 Salon Trin Gwallt, 2 Salon Harddwch, neuadd chwaraeon 600m2 gyda wal ddringo, 6 ystafell ddysgu ILS arbenigol, Labordy Gwyddor Chwaraeon, Labordy Electroneg, Mannau Gweithredol, Ardal Ddysgu, Ardaloedd TG/Dysgu ledled yr adeilad, Mannau Cymdeithasol ledled yr adeilad, Ffreutur Mawr, Caffi, Ardal Gwasanaethau Myfyrwyr Un Stop, ac Ystafell Weddi a Myfyrdod. [2]

Darpariaeth golygu

Mae'r coleg yn darparu ystod o gyrsiau i fyfyrwyr o'r ardal leol, gan gynnwys TGAU, Lefel A, BTEC, Prentisiaethau a chyrsiau Mynediad . Mae Coleg Merthyr Tudful hefyd yn cynnig darpariaeth gyfyngedig o gyrsiau addysg uwch ar y cyd â Phrifysgol De Cymru.

Cyrsiau golygu

Mae'r Coleg yn cynnig amrediad o gyrsiau gan fwyaf rhai galwedigaethau. Maent yn cynnwys:[3]

  • Addysg Uwch
  • Amgylchedd Adeiledig
  • Busnes a Rheoli
  • Cerbyd Modur
  • Cyfrifiadura
  • Chwaraeon
  • Diwydiannau Creadigol - Celf, Graffeg a Ffotograffiaeth
  • Diwydiannau Creadigol - Cyfryngau, Cerddoriaeth, a Chelfyddydau Perfformio
  • Y Dyniaethau
  • Gofal Plant ac Addysg
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Gwyddoniaeth a Mathemateg
  • Harddwch
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Peirianneg
  • Sgiliau Byw'n Annibynnol
  • Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL)
  • Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach
  • Teithio a Thwristiaeth
  • Trin Gwallt

Coleg Merthyr a'r Gymraeg golygu

Saesneg yw prif iaith cyfrwng dysgu y Coleg ond ceir ymrywiad yn unol gyda Safonau’r Gymraeg wyddfa Comisynydd y Gymraeg i roi mynediad cyfartal i wasanaethau a phrofiadau i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg.[4] Mae Coleg Merthyr, gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn datblygu modiwlau a darpariaeth Cymraeg mewn rhai meysydd.

Cyn-fyfyrwyr nodedig golygu

  • Gerrion Jones, Casglwr Celf

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Evans, Jonathan (2013-09-05). "New era in education at Merthyr Tydfil college". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-31.
  2. "Campws a Chyfleusterau". Y Coleg Merthyr. Cyrchwyd 2023-05-31.
  3. "Llawn Amser". Y Coleg Merthyr. Cyrchwyd 2023-05-31.
  4. "Safonau'r Iaith Gymraeg". Y Coleg Merthyr. Cyrchwyd 2023-05-31.