Colosseum
(Ailgyfeiriwyd o Colisseum)
Amffitheatr yn ninas Rhufain yn yr Eidal yw'r Colosseum neu Coliseum, (Eidaleg: Colosseo). Ei enw gwreiddiol oedd yr Amphitheatrum Flavium ("Amffitheatr y Flafiaid"). Y Colosseum yw'r amffithatr mwyaf a adeiladwyd yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.
![]() | |
Math | Amffitheatr Rufeinig, safle archaeolegol, atyniad twristaidd, stadiwm, archaeological artifact museum, Italian national museum, historical civil building museum, Museum of the Italian Ministry of Culture ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 81 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | archaeological park of Colosseum ![]() |
Sir | Roma Capitale ![]() |
Gwlad | yr Eidal ![]() |
Arwynebedd | 5,000 m², 30,000 m² ![]() |
Cyfesurynnau | 41.8903°N 12.4922°E ![]() |
Cod post | 00184 ![]() |
Hyd | 187 metr ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Rufeinig ![]() |
Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Vespasian ![]() |
Manylion | |
Deunydd | trafertin Rhufain, twff, concrit ![]() |
Saif y Colosseum ychydig i'r dwyrain o Fforwm Rhufain. Dechreuwyd ei adeiladu gan yr ymerawdwr Vespasian rhwng 70 a 72 OC, a gorffennwyd y gwaith yn 80 yn nheyrnasiad ei fab, Titus. Gwnaed newidiadau i'r cynllun yn ystod teyrnasiad brawd Titus, Domitian 81-96).
Gallai'r Colosseum ddal tua 50,000 o wylwyr, a chafodd ei ddefnyddio am bron 500 mlynedd. Fe'i defnyddid ar gyfer ymladdfeydd gladiator a difyrrion eraill.
