Collwyn ap Tangno
Uchelwr Cymreig o'r 11g
Uchelwr Cymreig oedd Collwyn ap Tangno neu Gollwyn ap Tangno (bl. 11g) a fu'n Arglwydd Eifionydd, Cantref Dunoding (Ardudwy), a rhan o Lŷn.[1] Efe oedd sefydlydd y pumed o Bymtheg Llwyth Gwynedd.
Collwyn ap Tangno | |
---|---|
Man preswyl | Harlech |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | Arglwydd |
Plant | Merwydd 'Goch' ap Gollwyn, Einion ap Collwyn |
Yn ôl traddodiad, dywed iddo ddisgyn, drwy Cunedda, o'r Brenin Urien Rheged a Coel Hen. Credir iddo fyw yn Nhŵr Bronwen, Harlech, a rhoddwyd yr enw Caer Collwyn ar yr amddiffynfa honno.[2] Gyda'i wraig gyntaf, Modlan Benllydan, cafodd bum plentyn (Merwydd Goch, Ebnowen, Ednyfed, Cadifor, Eginir), ac un mab (Einion) gyda'i ail wraig Rhianwen ferch Ednyfed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Nicholas (1872). Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales, Containing a Record of All Ranks of the Gentry, Their Lineage, Alliances, Appointments, Armorial Ensigns, and Residences ... (yn Saesneg). Longmans. t. 201.
- ↑ Owain Wiliams, "Achyddiaeth", Y Brython (Gorffennaf 1860), t. 251. Adalwyd ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 15 Ionawr 2021.