Pymtheg Llwyth Gwynedd

Mae Pymtheg Llwyth Gwynedd neu weithiau Pymtheg Llwyth Cymru yn cyfeirio at 15 rhestr achyddol h.y. llinach teulu o uchelwyr. Cawsant eu creu, hyd y gwyddys, gan y beirdd Cymreig yn ystod y 15g.[1] Roedd medru adrodd hanes eich teulu'r adeg honno yn ddisgwyliedig, ac yn grefft - gan olrhain yr achau hyd at 'bump llwyth Cymru, neu bymtheg llwyth Gwynedd.

Sonir hefyd am 'Bymthecllwyth Gwyndyd' yng Ngweithiau Barddonol Huw Arwystl yn yr 16g ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn Gwyneddon 3 (gol Ifor Williams) 280: 'Henwau y pumpthec-llwyth Gwynedd'.[2]

Mae'r cyfeiriad cyntaf at bymtheg llwyth Gwynedd wedi'i sgwennu'n rhannol gan Gutun Owain yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 131.[3][3]

Mae'r arfbeisiau canlynol i'w gweld mewn ystafell arbennig yn Erddig wedi'u creu ar gyfer perchennog y tŷ, Philip Yorke (1743 - 1804) a hynafieithydd a oedd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi llyfr ar arfbeisiau Cymru. Mae'r gyfrol yn parhau i fod yn ffynhonnell bwysig i haneswyr.[4][5]

Darllen pellach golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Siddons, "Genealogies [2] Welsh", t. 802
  2.  Gwyndyd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  3. 3.0 3.1 Bartrum, "Hen Lwythau Gwynedd a'r Mars", t.233
  4. The Royal Tribes of Wales, Philip Yorke (1743 ~1804) (cyhoeddwyd yn 1887 yn Wrecsam)
  5. A Pedigree of the Royal Tribes of Wales, Roderick D. Davies (1999); gweler fersiwn ar-lein ar wefan archive.org: yma