Ymddangosiad o Iahwe, Duw Israel, yn y Tora yw'r golofn o niwl. Defnayddir hefyd y term colofn o gwmwl a cholofn o fwg.

Darlun o'r golofn o niwl.

Dyfyniadau beiblaidd

golygu

Daw'r adnodau canlynol allan o adolygiad (1620) o Feibl 1588:

  • Exodus 13:21–22 A'r ARGLWYDD oedd yn myned o'u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i'w harwain ar y ffordd; a'r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos. Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na'r golofn dân y nos, o flaen y bobl.[1]
  • Numeri 14:14 Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, ARGLWYDD, ymysg y bobl yma, a’th fod di, ARGLWYDD, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dan y nos;)[2]
  • Deuteronomium 1:33 Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmwl.[3]
  • Nehemeia 9:12 Ac a’u harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn gwmwl, a lliw nos mewn colofn dân, i oleuo iddynt hwy y ffordd yr oeddynt yn myned ar hyd-ddi.[4]
  • Nehemeia 9:19 Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na’r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu