Ymgyrch Colofn o Niwl

Ymgyrch gan Luoedd Amddiffyn Israel yn Llain Gaza yw Ymgyrch Colofn o Niwl (neu Ymgyrch Colofn o Gwmwl; Saesneg: Operation Pillar of Defense; Hebraeg: עַמּוּד עָנָן, Amúd Anán; llythr. "Colofn o Gwmwl")[1] a lansiwyd ar 14 Tachwedd 2012 pan lofruddiwyd Ahmed Jabari, pennaeth milwrol Hamas yn Gaza, gan fyddin Israel.[2][3][4] Diben yr ymgyrch, yn ôl Llywodraeth Israel, oedd atal ymosodiadau rocedi gan Hamas rhag cael eu saethu o'r Llain Gaza[5] a chreu anhrefn gweinyddol i fudiadau milwriaethol y Palesteiniaid.[6]

Ymgyrch Colofn o Niwl
Enghraifft o'r canlynolgweithrediad milwrol, gwrthdaro arfog Edit this on Wikidata
Rhan oGwrthdaro Israel-Gaza, Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd14 Tachwedd 2012 Edit this on Wikidata
Daeth i ben21 Tachwedd 2012 Edit this on Wikidata
LleoliadLlain Gaza, Israel Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolמבצע עמוד ענן Edit this on Wikidata
GwladwriaethIsrael, Gwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adeiladau wedi'u difrodi yn Gaza.
Colofnau o fwg uwch ben Gaza, wedi i'r dref gael ei ddifrodi gan daflegrau Israel.

Yn ôl Llywodraeth Israel, cychwynodd eu hymgyrch am dri rheswm:[7]

  1. honir fod grwpiau Palesteinaidd wedi lansio dros 100 o rocedi tuag at Israel dros gyfnod o 24 awr,[8]
  2. ymosodiad ar jeep byddin Israel oddi fewn i Israel ei hun[9]
  3. a ffrwydriad o dan dir Israel, yn agos at grwp o filwyr Israelaidd.[10]

Taniodd byddin Israel, yr IDF, dros 1,550 o daflegrau a rocedi o'r awyr, allan o danciau ac o longau'r llynges tuag at y Llain Gaza.[11] Ffrwydrwyd cyfarpar tanio rocedi Hamas, gan daro canolfannau cadw arfau a chanolfannau milwrol; ffrwydrodd y rocedi Israelaidd hyn, hefyd, adeiladau sifilaidd gan gynnwys adeiladau'r Llywodraeth, tai cyffredin a blociau o fflatiau.[12][13][14]

Lladdwyd rhwng 158 a 177 o Balisteiniaid gyda dros eu hanner yn sifiliaid.[15] Amcangyfrifant hefyd fod 1,200 - 1,300 o Balisteiniaid wedi'u niweidio.

Ar 22 Tachwedd, drwy gymorth yr Aifft cafwyd cadoediad, gydag amodau e.e. codi'r gwaharddiadau i'r Palesteiniaid fewnforio nwyddau i'r Llain Gaza.

Cefndir golygu

Disgrifir y Llain Gaza gan rai fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd Maes Awyr Yasser Arafat ganddynt). I'r de, ar y ffina â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger Rafah, ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.

Mae gwarchae Israel o'r llain yn golygu mai ychydig iawn o fynd a dod sy'n digwydd o'r ardal. Mae Israel yn caniatau rhywfaint o gymorth meddygol ond yn ôl y Groes Goch mae effaith y warchae'n niweidiol iawn i economi Palesteina ac yn creu argyfwng oherwydd diffyg nwyddau meddygol hanfodol megis ffilm Pelydr-X.[16] Cred y Groes Goch hefyd fod y gwarchae hwn gan Israel yn anghyfreithiol ac yn groes i Gyfraith Ryngwladol, Ddynol (Saesneg: international humanitarian law)[17]

Yn Rhagfyr 2008, cafwyd ymosodiad gan Lu Awyr Israel a lladdwyd dros 300 o Balesteiniaid o fewn deuddydd. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudodd tanciau a milwyr Israel i mewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel yn rhagflaenu'r milwyr. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon.

Ym Mai 2010 ymosododd milwyr Israel ar lynges ddyngarol yn cludo nawdd i Lain Gaza.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Chief of Staff Declares 'Operation Pillar of Cloud'". Arutz Sheva. 14 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2012.
  2. "Day 2: 300+ Rockets Fired at Israel Since Start of Operation Pillar of Defense". Algemeiner (live updates). 15 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2012.
  3. Lappin, Yaakov (14 Tachwedd 2012). "Israeli air strike kills top Hamas commander Jabari". The Jerusalem Post. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2012.
  4. Kalman, Matthew (15 Tachwedd 2012). "Massed Israeli troops poised for invasion of Gaza". The Independent. DU. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-23. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2012.
  5. Al-Mughrabi, Nidal (16 Tachwedd 2012). "Jerusalem and Tel Aviv under rocket fire, Netanyahu warns Gaza". Chicago Tribune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-09. Cyrchwyd 2012-11-20.
  6. "Israeli air strike kills top Hamas commander Jabari". The Jerusalem Post. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2012.
  7. http://www.mfa.gov.il/MFA/Government/Speeches+by+Israeli+leaders/2012/Operation_Pillar_of_Defense-Statements.htm
  8. http://www.jpost.com/Defense/Article.aspx?id=291300
  9. http://www.liveleak.com/view?i=7a6_1352564792
  10. http://abcnews.go.com/International/wireStory/israel-tunnel-explodes-gaza-border-17686902#.UKnxEIefvuE
  11. Vick, Karl (19 November 2012). "The Israeli Assault on Gaza: How Surgical Are the Strikes?". Time. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2012.
  12. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-21. Cyrchwyd 2012-11-22.
  13. http://www.huffingtonpost.com/2012/11/20/israel-gaza-attacks-truce-talk_n_2167093.html
  14. IAF bombs home of Hamas PM Haniyeh; not hurt[dolen marw], Jerusalem Post 16 Tachwedd 2012
  15. "Escalation in Hostilities, Gaza and southern Israel" (PDF). Situation Report. United Nations Office for the Coordination of Humanitarian Affairs. 26 November 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-03. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2012.
  16. "Red Cross: Israel trapping 1.5m Gazans in despair". Haaretz. 2009-06-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-30. Cyrchwyd 2012-12-05.
  17. "ICRC says Israel's Gaza blockade breaks law". BBC News. 14 Mehefin 2010.