Colorama

band roc Cymreig

Band roc Cymreig o Gaerdydd, yw Colorama.

Carwyn Ellis

Ffurfiwyd Colorama yn 2005 - yn greadigaeth Carwyn Ellis, cerddor a hyfforddwyd yn Academi Brenhinol Llundain ac a fu'n perfformio gyda rhai o enwau mwyaf y byd pop a roc - o Oasis i Paul Weller a Neil Young. Ymunodd ei ffrind pennaf a hen gyfaill o ddyddiau Coleg, David Fletcher, meistr ar y bas-dwbl, â'r band gan ddechrau eu gyrfa fel 'Colorama' yn gigio yn Lerpwl.

Ar ôl dwy flynedd, symudodd y band i Gymru ac yn Ebrill 2088 rhyddhawyd yr albwm cyntaf, yn Siapan yn unig, sef Cookie Zoo ar Noise McCartney / Bad News Records (Victor Entertainment).

Cynyddodd poblogrwydd y band seicadelig a melodaidd wrth iddynt swyno'r torfeydd yng Ngwyliau Glastonbury, Latitude, Home Game, Sŵn ac eraill. Ond yn 2009, ar ôl perfformiad grymus yn Glastonbury, bu farw David Fletcher yn sydyn o drawiad y galon ac yntau ond yn 37 oed, oedd yn golled enbyd i'r band.

Ym mis Medi 2009, rhyddhawyd albwm cyntaf y band yn y DU, Magic Lantern Show ar Redbricks Recordings, yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a'r Saesneg. Erbyn hyn roedd Luca Guernieri wedi ymuno ar y drymiau a David Page ar y gitar fas. Un o'r caneuon mwyaf trawiadol oedd y swynol 'Dere Mewn', sydd yn glasur erbyn hyn. Disgrifiwyd hi yn "gân anhygoel" gan Huw Stephens ac yn "Soft Psych Classic" gan Sean Rowley. Cafodd yr albwm ei chwarae yn gyson gan y prif orsafoedd radio gan godi proffil y band yn sylweddol.

Yn 2010, rhyddhawyd yr albwm Box, ar labelau Noise McCartney / Bad News Records (Victor Entertainment) yn Siapan a See Monkey Do Monkey Recordings yn y DU. Yn fuan wedi hyn, rhyddhawyd sengl Nadoligaidd ganddynt, 'Cerdyn Nadolig', unwaith eto yn waith arbennig o felodig, ag enillodd y safle cyntaf iddynt ar Siart C2

Yn 2016, rhyddhawyd yr albwm Bendith, prosiect cerddorol ar y cyd rhwng Carwyn Ellis a'r band Plu. Roedd y gwaith celf gan yr artist Asami Fukuda. Yn ogystal, fe ryddhawyd y Bendith ep ar vinyl 12" gan y label Aficionado, y label rhyddhaodd y sengl Hapus gan Colorama.

Disgyddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Proffil y band gan BBC Cymru