Amffitheatr yn ninas Rhufain yn yr Eidal yw'r Colosseum neu Coliseum, (Eidaleg: Colosseo). Ei enw gwreiddiol oedd yr Amphitheatrum Flavium ("Amffitheatr y Flafiaid"). Y Colosseum yw'r amffithatr mwyaf a adeiladwyd yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.

Colosseum
MathAmffitheatr Rufeinig, safle archaeolegol, atyniad twristaidd, stadiwm, archaeological artifact museum, Italian national museum, historical civil building museum, Museum of the Italian Ministry of Culture Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol81 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 82 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolarchaeological park of Colosseum Edit this on Wikidata
SirRoma Capitale Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Arwynebedd5,000 m², 30,000 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.8903°N 12.4922°E Edit this on Wikidata
Cod post00184 Edit this on Wikidata
Hyd187 metr Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Rufeinig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethased diwylliannol yr Eidal Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganVespasian Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddtrafertin Rhufain, twff, concrit Edit this on Wikidata

Saif y Colosseum ychydig i'r dwyrain o Fforwm Rhufain. Dechreuwyd ei adeiladu gan yr ymerawdwr Vespasian rhwng 70 a 72 OC, a gorffennwyd y gwaith yn 80 yn nheyrnasiad ei fab, Titus. Gwnaed newidiadau i'r cynllun yn ystod teyrnasiad brawd Titus, Domitian 81-96).

Gallai'r Colosseum ddal tua 50,000 o wylwyr, a chafodd ei ddefnyddio am bron 500 mlynedd. Fe'i defnyddid ar gyfer ymladdfeydd gladiator a difyrrion eraill.

Y tu fewn

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato