Idris Charles
Diddanwr, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu oedd Idris Charles (3 Ionawr 1947 – 7 Gorffennaf 2021).[1][2]
Idris Charles | |
---|---|
Ganwyd | Idris Charles Williams 3 Ionawr 1947 Bodffordd |
Bu farw | 7 Gorffennaf 2021 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, digrifwr stand-yp |
Tad | Charles Williams |
Ganwyd Idris ym Modffordd yn fab i Jennie a'r actor Charles Williams. Mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni ac aeth ymlaen i Goleg Diwinyddol Aberystwyth.
Gyrfa
golyguAr ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au bu'n trefnu nosweithiau adloniant "Sêr Cymru" yn sinema'r Majestic yng Nghaernarfon.
Daeth yn is-gynhyrchydd gyda HTV Cymru yn 1983 gan gynhyrchu a sgriptio nifer o raglenni adloniant ysgafn fel Bwrw’r Sul, Cyfle Byw, Traed Dan Bwrdd, Par Mewn picl, Bwrlwm Bro, Llwyfan, Gweld Sêr a Sblat. Cyflwynodd dair cyfres o'r cwis Stumiau (seiliwyd ar 'Charades') a tair cyfres o Bwrlwm Bro.
Yn yr 1980au roedd yn adnabyddus fel cyflwynydd nifer o sioeau adloniant a chwisiau a bu'n actio ar sawl rhaglen yn cynnwys Pobol y Cwm, A470, Dwy Ynys, Gwely Blodau a Hotel Eddie. Bu'n cyflwyno nifer o sioeau ar BBC Radio Cymru ac roedd yn sylwebydd pêl-droed.
Yn 1996 cyd-gynhyrchodd pedair gyfres comedi stand-yp Y Jocars ar S4C.[3]
Rhwng 2002 a'i ymddeoliad yn 2012 bu'n gynhyrchydd gyda chwmni Tinopolis gan gynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni fel Wedi 7/Heno, Sam ar y Sgrîn a rhaglenni arbennig Heno er enghraifft Ems yn 60, Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol a pedair rhaglen Nos Galan i S4C.
Mae'n awdur ar dair cyfrol, Heb y Mwgwd[4], Hiwmor Idris a Charles[5] a Cofio'r Dyn a'i Ddigrifwch[6].
Ers ymddeol bu'n parhau i weithio yn achlysurol.[7]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Ceri ac yn byw yng Nghasnewydd. Roedd yn cefnogi Clwb Pêl-droed Casnewydd (Newport County).
Ganwyd ei mab hynaf, Iwan, yn Wrecsam yn 1979 a Owain yn Mancot yn 1981.
Bu farw yn ei gartref yng Nghasnewydd, yn 74 mlwydd oed ar 7 Gorffennaf 2021. Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Gwener, 23 Gorffennaf, a gwasanaeth coffa ym Mynwent Capel y Gad, Bodffordd am 3.00 y prynhawn.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dw i wedi cyrr>aedd 'Oed yr addewid' HEDDIW (3 Ionawr 2017). Adalwyd ar 23 Ebrill 2018.
- ↑ Teyrngedau i Idris Charles , 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Glywsoch chi'r jôc?..." , BBC Cymru Fyw, 18 Awst 2015. Cyrchwyd ar 23 Ebrill 2018.
- ↑ (www.gwerin.com), Gwerin. "Idris Charles: Heb y Mwgwd (9781847710864) | Idris Charles | Y Lolfa". www.ylolfa.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-09. Cyrchwyd 2018-08-19.
- ↑ (www.gwerin.com), Gwerin. "Hiwmor Idris a Charles (9781847710024) | Idris Charles | Y Lolfa". www.ylolfa.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-24. Cyrchwyd 2018-08-19.
- ↑ (www.gwerin.com), Gwerin. "Charles: Cofio'r Dyn a'i Ddigrifwch (9781784611668) | Idris Charles | Y Lolfa". www.ylolfa.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-09. Cyrchwyd 2018-08-19.
- ↑ LinkedIn - Idris Charles. LinkedIn. Adalwyd ar 23 Ebrill 2018.
- ↑ Hysbyseb marwolaeth Idris (Charles)WILLIAMS. Daily Post (14 Gorffennaf 2021). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2021.