Glan Davies
Digrifwr ac actor Cymreig o Frynaman yw Glan Davies (ganwyd tua 1942).[1] Yn fab i löwr, ysgrifennydd y Blaid Lafur a Chymro cadarn, gadawodd Goleg Technegol Rhydaman yn 15 oed gan mynd i weithio fel syrfeiwr ac yna yn 1970 symudodd i Aberystwyth i weithio i wahanol gwmnïau adeiladu gan ddod yn Brif Weithredwr ac yna sefydlodd gwmni teithiau. Roedd ei frawd, Eurig, yn blismon yng ngorsaf Goginan.
Glan Davies | |
---|---|
Ganwyd | William Glanville Davies 1942 Brynaman |
Man preswyl | Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, syrfewr tir |
Bywyd cynnar
golyguDechreuodd ei diddordeb yn y byd Actio pan oedd yn 9 mlwydd oed gyda pharti Drama Capel Moria. Enillodd y parti yn Eisteddfod yr Urdd 1954 yn y Bala i aelodau dan 15 oed. Enillodd ddwy waith eto yn y categori yma ac yna yng nghategori 15 - 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd, Brynaman, 1963. Bu'n rhan o sefydlu Parti Noson Lawen Aelwyd Aman gan gael llwyddiant gyda'r parti yma gan gynnwys dod yn fuddugol yn Eisteddfod yr Urdd, Aberystwyth yn 1969.
Bu hefyd yn aelod o Grŵp Bois Brynaman a bu'n codi arian at achosion da gyda Dafydd Iwan a'r Diliau yn yr 1960au a 70au.
Gyrfa
golyguMae wedi treulio ei oes yn diddanu pobl – yn gyntaf gyda chwmnïau dramâu y capel a Urdd Gobaith Cymru ac yna fel arweinydd nosweithiau llawen a phinaclau pop y 60au a’r 70au. Bu’n actio mewn sawl cyfres ddrama gan gynnwys y cymeriad 'Clem' yn Pobol y Cwm. Mae wedi gweithio gyda Sian Phillips, Ronnie Barker, Ken Dodd, Little and Large, Mike Doyle a Max Boyce. Mae wedi cyflwyno rhaglenni teledu o gyfnod 'Hob y Deri Dando' (pan ddarlledwyd o hen Neuadd y Brenin, Aberystwyth) yn yr 1960au i gyfresi Noson Lawen.
Mae'n gwneud llawer o waith dros elusennau lleol a chenedlaethol. Bu’n codi arian er budd Plant Mewn Angen, elusennau iechyd, Clwb Rygbi Aberystwyth a Clwb Pêl-droed Aberystwyth. Mae’n un o dri person sydd wedi hyfforddi dros 700 o bobl Ceredigion ar sut i wneud i achub bywyd yn y Gymuned, os yw person wedi cael trawiad ar y Galon a sut mae gwneud CPR a defnyddio diffibrilwyr, yn ogystal â chyflwyno 70 o’r peiriannau achub bywyd yng Ngheredigion.
Ymysg ei ffilmiau mwyaf mae Rhosyn a Rhith (1987) ac Eye of the Dragon (1987); mae hefyd yn awdur llyfrau llawn hiwmor, Jôcs Glan a Hiwmor Cefn Gwlad.
Anrhydedd
golyguDewiswyd Glan Davies i fod yn 'Dywysydd' Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2017 gan arwain gorymdaith drwy'r dre. Yn ôl trefnwyr y Parêd, rhoddir y fraint iddo am ei gyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal ac am arddel y Gymraeg yn naturiol yn ei waith fel diddanwr a chodi arian i elusennau.
Gweithiau
golyguActor
golygu- The Magnificent Evans, dyn llefrith - Pennod 1.1 (1984)
- The District Nurse, Jabez Jones - pennod "A Terrible Itch" (1987)
- Llygad y Ddraig, Ianto Rees - cyfres deledu fer (1987)
- Rhosyn a Rhith, Dino - ffilm (1987)
- The Snow Spider, Mr. Lloyd - cyfres deledu fer (1988)
- Undertaker's Paradise ffilm (2000)
- Pobol y Cwm, Clem Watkins - opera sebon (1988-1997)
Eraill
golygu- Very Annie Mary, rheolwr llwyfan
Llyfrau
golygu- Jôcs Cefn Gwlad, Y Lolfa ISBN 0862437555
- Jôcs Glan, Y Lolfa ISBN 0862432022
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Doedd dim ond un Ryan a Ronnie... Ryan a Ronnie yw ffilm Dydd Nadolig S4C eleni. Bu Owain Pennar yn siarad ,'r actor a'r diddanwr Glan Davies sydd, rhan yn y ffilm ac a fu hefyd yn rhannu llwyfan gyda'r ddau eicon. , Western Mail, 5 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 9 Rhagfyr 2018.