Comisiwn Richard (enw llawn: Y Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru) yw'r comisiwn annibynnol a benodiwyd yng Ngorffennaf 2002 "i ymchwilio, ymysg pethau eraill, i ehangu cyfranoldeb yng nghyfansoddiad y Cynulliad a'r grymoedd perthnasol a ddatganolwyd."

Cyhoeddwyd adroddiad Comisiwn Richard ar y 31 Mawrth, 2004. O fewn dyddiau, sefydlwyd y grŵp pwyso Cymru Yfory i hyrwyddo argymhellion Comisiwn Richard ac agweddau eraill ar gynyddu'r broses datganoli yng Nghymru.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.