Grŵp neu fudiad traws-bleidiol gydag aelodau sawl plaid, corff a sefydliad, ac unigolion hefyd, sydd â'r amcan o hyrwyddo'r broses datganoli yng Nghymru ac ennill mwy o rym i'r Cynulliad Cenedlaethol yw Cymru Yfory (Saesneg: Tommorow's Wales). Cafodd ei sefydlu ym mis Mawrth 2004 mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad Comisiwn Richard ar ehangu pwerau'r Cynulliad.

Cymru Yfory
Enghraifft o'r canlynolmelin drafod Edit this on Wikidata

Mae'r grŵp yn cael ei redeg gan Weithgor, sy'n cynnwys aelodau sy'n gweithredu fel unigolion ond sy'n cynrychioli trawsdoriad o bob sector ym mywyd cyhoeddus Cymru, yn cynnwys y sector wirfoddol, busnes a diwydiant, y byd academig, y gyfraith, pleidiau gwleidyddol, undebau llafur, grwpiau diwylliannol, capeli ac eglwysi a grwpiau crefyddol eraill, a chymunedau. Mae aelodau'r gweithgor yn cynnwys Cynog Dafis AS, Michael German AC, Meri Huws, Richard Livsey, David Melding AC, y Parchedicaf Ddoctor Barry Morgan Archesgob Cymru, yr Arglwydd Elystan Morgan, Jon Owen Jones, y Parchedicaf Peter Smith Archesgob Caerdydd, a Geraint Talfan Davies.[1]

Yn ôl Cymru Yfory, prif amcan y grŵp yw "annog

  • gweithredu argymhellion Adroddiad Richard
  • cymdeithas sifig a’r cyhoedd i gyfrannu i drafodaeth agored, wybodus ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru
  • diddordeb o fewn cymdeithas Gymreig mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, ac annog cymdeithas sifig i ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru."[2]

Mae’r mudiad yn trefnu amryw weithgareddau, yn cynnal gwefan, ac yn cysylltu'n rheolaidd â grwpiau a mudiadau eraill.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cymry Yfory: Gweithgor". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-07. Cyrchwyd 2008-09-29.
  2. "Cymry Yfory: amcanion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-19. Cyrchwyd 2008-09-29.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu