Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Comisiwn annibynnol a sefydlwyd ym mis Hydref 2011 yw'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a adnabyddir hefyd fel Y Comisiwn Silk.[1]

Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
Enghraifft o'r canlynolcomisiwn llywodraethol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Gwaith y Comisiwn

golygu

Mae dwy ran i waith y comisiwn:

Rhan 1 (cwblhawyd ym mis Hydref 2012)

Adolygu pwerau ariannol presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyswllt trethiant a benthyca. Yn benodol: “Adolygu’r dadleuon o blaid datganoli pwerau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymell pecyn o bwerau a fyddai’n gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad, sy’n gyson ag amcanion cyllidol y Deyrnas Unedig ac yn debygol o dderbyn cefnogaeth eang.”

Rhan 2 (cwblhawyd yng ngwanwyn 2014)

Adolygu pwerau anariannol presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Aelodaeth

golygu

Penodwyd Paul Silk yn gadeirydd y Comisiwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan. Yn ogystal â hyn, penodwyd dau aelod arall a oedd yn annibynnol ar bleidiau gwleidyddol, Dyfrig John CBE a’r Athro Noel Lloyd CBE. Enwebwyd aelod i’r Comisiwn hefyd gan bob un o’r pleidiau gwleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru: Nick Bourne, a enwebwyd gan Geidwadwyr Cymru; Sue Essex, (Llafur Cymru); Dr Eurfyl ap Gwilym, (Plaid Cymru); a Rob Humphreys, (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).

Barn y Bobl

golygu

Dangosodd canlyniadau arolwg barn Dydd Gŵyl Dewi fod 62% o bobl yn credu y dylai Llywodraeth Cymru allu amrywio rhai trethi er mwyn amrywio gwariant. Roeddent hefyd yn dangos bod 66% o blaid rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru fenthyca arian i’w wario ar brosiectau cyfalaf fel adeiladu ffyrdd ac ysbytai

Argymhelliadau

golygu

Gwnaethpwyd 33 argymhelliad yn dilyn yr adolygiad ar bwerau ariannol presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

A.1. Nid yw’r trefniadau ariannu presennol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cwrdd ag anghenion democratiaeth aeddfed ac maent yn anarferol yn y cyd-destun rhyngwladol. Y model ariannu lle y mae grant bloc a rhai trethi datganoledig yw’r un gorau i wireddu egwyddorion da ar gyfer ariannu Llywodraeth Cymru. Felly rydym yn argymell bod rhan o’r gyllideb i Lywodraeth Cymru yn cael ei hariannu o drethi datganoledig sydd o dan ei rheolaeth.

A.2. Bod ardrethi busnes yn cael eu datganoli’n llwyr, ar yr amod bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno ar y manylion ac yn asesu unrhyw risgiau cysylltiedig.

A.3. Bod Treth Tir y Doll Stamp yn cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru a bod Gweinidogion Cymru yn cael rheolaeth dros bob agwedd ar y dreth yng Nghymru. Dylid didynnu rhan benodedig o’r grant bloc yn unol â chytundeb ar ei gwerth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i natur gyfnewidiol y derbyniadau.

A.4. Bod treth tirlenwi yn cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru a bod Gweinidogion Cymru yn cael rheolaeth dros bob agwedd ar y dreth yng Nghymru. Dylid didynnu rhan benodedig o’r grant bloc yn unol â chytundeb ar ei gwerth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i’r gostyngiad yn y sylfaen drethadwy.

A.5. Yn amodol ar ganlyniad trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a Chomisiwn yr UE ar faterion sy’n ymwneud â chymorth gwladwriaethol, fod yr ardoll agregau yn cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru, a bod Gweinidogion Cymru yn cael rheolaeth dros bob agwedd ar y dreth yng Nghymru. Dylid didynnu rhan benodedig o’r grant bloc yn unol â chytundeb ar ei gwerth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i’r gostyngiad yn y sylfaen drethadwy.

A.6. Bod y Doll Teithwyr Awyr yn cael ei datganoli ar gyfer teithiau awyr hir uniongyrchol yn gyntaf ac yn argymell bod Llywodraeth y DU yn cynnwys datganoli holl gyfraddau’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru yn ei gwaith ar drethi hedfan yn y dyfodol, a ddylai gynnwys ystyriaeth i’r achos mwy cyffredinol o blaid gwahaniaethu rhanbarthol ar gyfer y Doll Teithwyr Awyr neu godi tâl am dagfeydd mewn meysydd awyr. Arghymellwyd bod y mater hwn yn cael ei ystyried yng nghyd-destun adolygiad Davies ac unrhyw ddatblygiadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dylid didynnu rhan benodedig o’r grant bloc yn unol â chytundeb ar ei gwerth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i’r rhagolygon am refeniw o’r dreth yng Nghymru.

A.7. Nid ddylai treth tanwydd gael ei datganoli. O ystyried y profiad o’r cynllun peilot ad-daliad treth tanwydd, fod Llywodraeth y DU yn asesu’r posibilrwydd o ymestyn y cynllun i rai ardaloedd gwledig ac anghysbell yng Nghymru, ar yr amod bod yr UE yn cytuno ar hynny.

A.8. Ni ddylai y trethi canlynol yn cael eu datganoli: •tollau cartref a threth ar alcohol; •Treth Car; •Treth ar Enillion Cyfalaf; •Treth ar Bremiymau Yswiriant; •toll stamp ar gyfranddaliadau; •Treth Etifeddiant; •trethi ar fetio a hapchwarae; ac •Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

A.9. Y bydd Llywodraeth y DU, wrth ystyried cyflwyno trethi newydd mewn meysydd polisi sydd wedi’u datganoli, yn rhagdybio o blaid datganoli pwerau dros y dreth i Lywodraeth Cymru.

A.10. Lle nad yw trethi a gostyngiadau i’r DU gyfan wedi’u datganoli, arghymellir: (a)bod Llywodraeth y DU yn cadw dan sylw y cyfle i gyflwyno gostyngiadau treth a fyddai’n helpu i hybu economi Cymru mewn ffordd gosteffeithiol a fforddiadwy o dan gyfyngiadau’r UE ar gymorth gwladwriaethol; ac (b)os bydd Llywodraeth y DU yn newid y trothwyon a lwfansau neu gyfraddau ar gyfer treth sydd heb ei datganoli, sy’n cynnwys elfen o dargedu daearyddol (er enghraifft, lwfansau cyfalaf mewn Ardaloedd Menter mewn ardaloedd penodol), fod asesiad yn cael ei wneud drwy ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru allu ariannu darpariaeth ychwanegol.

A.11. Bod pŵer yn cael ei roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu gyda chytundeb Llywodraeth y DU ym mhob achos i gyflwyno trethi penodedig ac unrhyw gredydau treth cysylltiedig yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru gadw’r refeniw o drethi o’r rhain heb ddidynnu rhan o’r grant bloc. Dylai Llywodraeth y DU fod yn hyblyg wrth ddelio ag unrhyw gais am y trethi hyn oddi wrth Lywodraeth Cymru.

A.12. Ni argymhellir datganoli treth gorfforaeth i Gymru. Fodd bynnag, pe byddai Llywodraeth y DU yn cytuno i ddatganoli treth gorfforaeth i’r Alban ac i Ogledd Iwerddon, rydym yn argymell bod yr un pwerau’n cael eu rhoi i Gymru.

A.13. Dylid creu modd i gynnig y lwfansau cyfalaf uwch mewn mwy o ardaloedd menter yng Nghymru yn unol â rheolau ar gymorth gwladwriaethol ac ar yr amod bod Llywodraeth Cymru yn talu’r gost gynyddrannol.

A.14. Mae amrywio cyfraddau TAW o fewn aelod-wladwriaeth wedi’i wahardd gan gyfraith yr UE. Felly ni ellir ystyried datganoli TAW, er ein bod yn cydnabod bod dadleuon eraill hefyd yn erbyn datganoli TAW. Gellid ystyried bod y gallu i wneud addasiadau mewn cyllidebau datganoledig nad oeddent yn ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth Cymru yn mynd yn groes i’r amcan o wella atebolrwydd. Oherwydd hyn, nid ydym yn argymell aseinio derbyniadau TAW

A.15. Ni argymhellir bod Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu datganoli ar eu ffurf bresennol. Mae cyswllt hanfodol rhwng cyfraniadau a’r Gronfa Yswiriant Gwladol sy’n ariannu budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Argymellir bod Llywodraeth y DU yn rhoi ystyriaeth bellach i addasiadau sy’n gwahaniaethu’n ddaearyddol, fel gwyliau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr, er mwyn hybu’r farchnad lafur yn unol â’r rheolau ar gymorth gwladwriaethol. Dylai Llywodraeth Cymru allu ariannu addasiadau ychwanegol o’r fath sy’n gwahaniaethu’n rhanbarthol yng Nghymru os ydynt yn gyson ag ymrwymiadau i’r UE a system nawdd cymdeithasol y Deyrnas Unedig.

A.16. Argymhellir bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhannu’r derbyniadau o dreth incwm. Dylai Llywodraeth Cymru fod â’r cyfrifoldeb dros osod cyfraddau treth incwm yng Nghymru ac rydym yn argymell y pecyn canlynol: a. na fydd treth incwm ar gynilion a dosbarthiadau’n cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru; b. y bydd cyfraddau treth incwm newydd i Gymru, a gaiff eu casglu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), a fydd yn gymwys i’r cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol o dreth incwm; c. y bydd y cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol o dreth incwm a godir gan Lywodraeth y DU yng Nghymru yn cael eu gostwng 10 ceiniog yn y bunt ar y dechrau. Ymhen amser gallai cyfran Llywodraeth Cymru gynyddu os bydd consensws gwleidyddol; ch. y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu amrywio’r cyfraddau treth sylfaenol, uwch ac ychwanegol ar wahân i’w gilydd; d. na fydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chyfyngu wrth osod cyfraddau ar ben y cyfraddau is ar gyfer y DU; dd. y bydd y mecanwaith ar gyfer addasu’r grant bloc yn cael ei seilio ar y dull didynnu wedi’i fynegrifo sydd wedi’u hargymell gan Gomisiwn Holtham, ac sy’n cael eu rhoi ar waith yn yr Alban, sy’n cynnwys egwyddor ‘dim niwed’ yn awtomatig; ac f. y bydd trefniadau pontio ar ôl cyflwyno datganoli ar dreth incwm, yn benodol er mwyn helpu i reoli’r broses o drosglwyddo risg.

A.17. Argymhellir bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon treth incwm i Gymru mewn ffordd debyg i’r Alban a bod y symiau a ragwelir yn cael eu haseinio i Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno deddfwriaeth, heb gael unrhyw effaith ar bŵer gwario Llywodraeth Cymru.

A.18. Argymhellir y bydd y trosglwyddo ar bwerau dros dreth incwm i Lywodraeth Cymru yn amodol ar ddatrys mater ariannu teg mewn ffordd y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno arni.

A.19. Argymhellir bod pŵer ychwanegol yn cael ei roi i Weinidogion Cymru i fenthyca er mwyn buddsoddi cyfalaf uwchlaw’r Terfyn Gwariant Adrannol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Dylid cael terfyn cyffredinol ar fenthyca o’r fath, a fydd yn gymesur o leiaf â’r hyn sydd yn yr Alban, gan gofio bod Cymru’n gymharol rydd oddi wrth effaith mentrau cyllid preifat. Bydd y proffil blynyddol y cytunir arno’n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ac yn cael ei adolygu ym mhob adolygiad o wariant. Dylid benthyca o’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol neu o ffynonellau masnachol. Argymhellir hefyd y dylai Llywodraeth Cymru allu dyroddi ei bondiau ei hun.

A.20. Argymhellir bod pwerau newydd i Weinidogion Cymru i fenthyca at ddibenion tymor byr yn cael eu cyflwyno i reoli llif arian parod a delio â derbyniadau trethi cyfnewidiol pan fydd trethi wedi eu datganoli, yn debyg i’r rheini yn Neddf yr Alban 2012.

A.21. Argymhellir bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio i hyrwyddo buddsoddi ychwanegol yng Nghymru drwy’r gwahanol fathau o fecanweithiau ariannu sydd ar gael.

A.22. Mae cyfle i drefnu bod mwy o wybodaeth ar gael i sicrhau mwy o atebolrwydd ariannol, dealltwriaeth gyhoeddus a thryloywder, ac rydym yn argymell y canlynol, yn amodol ar asesiad manwl o’r costau a buddion sy’n gysylltiedig gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel y bo’n briodol: a. bod trefniadau’n cael eu gwneud i ddarparu amcangyfrifon o’r gwariant yn Lloegr ar wasanaethau sydd wedi’u datganoli yn achos Cymru i gyfrannu at y ddadl ar gyllid cyhoeddus yng Nghymru; b. bod ystyriaeth ynghylch a ddylid cynnwys haen ‘is-genedlaethol’ o wariant llywodraeth yng nghyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y Deyrnas Unedig; c. bod ffigurau’n cael eu cynhyrchu ar faint y dreth a gaiff ei gasglu yng Nghymru. Dylai’r ffigurau hyn gynnwys amcangyfrifon hefyd o gydbwysedd cyllidol Cymru. Dylid dadansoddi’r ffigurau ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’n gyson ar draws y DU; ch. rydym yn annog Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i gyhoeddi ystadegau cymharol allweddol mewn meysydd sydd wedi’u datganoli a rhai sydd heb eu datganoli bob blwyddyn; a d. bod Llywodraeth Cymru yn ystyried a ellid cyhoeddi mwy o wybodaeth am yr economi yng Nghymru gan gynnwys gwybodaeth am Werth Ychwanegol Crynswth Cymru neu fesurau incwm eraill, yn ogystal â gwybodaeth am ragolygon economaidd.

A.24. Dylid caniatáu i Lywodraeth Cymru drosglwyddo gwariant o wariant cyfalaf i wariant adnoddau yn unol â thelerau concordat y cytunir arno â Thrysorlys EM, gan ystyried hanes blaenorol Llywodraeth Cymru o ran rheoli cyllidebau ac ar yr amod na fydd hynny’n peryglu targedau cyllidol Llywodraeth y DU.

A.25. Bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill yn adolygu eu profiad o’r cynllun cyfnewid cyllidebol datganoledig yn yr adolygiad nesaf o wariant ac yn cytuno ar hyblygrwydd priodol ar yr amod na fydd hynny’n peryglu targedau cyllidol Llywodraeth y DU.

A.26. Y bydd refferendwm yng Nghymru ar ddatganoli treth incwm. Dylid cynnwys darpariaeth ar gyfer refferendwm o’r fath yn y Ddeddf sy’n cyflwyno pwerau trethu a benthyca.

A.27. Bod Mesur Cymru newydd yn cael ei gyflwyno yn y Senedd hon i ddatganoli pwerau trethu a benthyca. Ni ddylid aros nes bod Rhan II ein gwaith wedi’i chwblhau cyn cyflwyno mesur i ddatganoli pwerau trethu a benthyca. Dylid cyflwyno newidiadau nad oes angen deddfwriaeth ar eu cyfer cyn gynted â phosibl.

A.28. Y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Trysorlys Cymru i reoli’r pwerau newydd yr ydym yn eu hargymell.

A.29. Bydd y system ariannu newydd yn galw am gryfhau’r trefniadau sefydliadol er mwyn delio â chyllid: a. dylid sefydlu Pwyllgor Dwyochrog Rhynglywodraethol ar y cyd ar Ddatganoli Cyllidol i Gymru a fydd yn cwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn ar ôl cyhoeddi rhagolygon chwemisol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i drafod trethiant a pholisi macro-economaidd; b. dylid pennu’r berthynas rhwng Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), yr Adran Gwaith a Phensiynau, a Llywodraeth Cymru ar dreth incwm mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a gaiff ei gyhoeddi cyn gweithredu’r argymhellion; c. ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, dylai llinellau atebolrwydd CThEM o ran y gyfradd treth incwm i Gymru fod yn debyg i’r rheini rhwng CThEM a Senedd a Llywodraeth y DU. Dylai Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yng CThEM fod yn benodol atebol am gasglu’r gyfradd treth incwm i Gymru; ch. dylai Mesur Cymru alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddigolledu CThEM am y costau ychwanegol net sy’n gysylltiedig â gweithredu a chynnal y gyfradd treth incwm i Gymru. Ar gyfer y trethi a gaiff eu datganoli’n llwyr (Treth Tir y Doll Stamp a Threth Tirlenwi) ac unrhyw drethi newydd, bydd angen i’r Cynulliad gytuno ar drefniadau ffurfiol, er enghraifft, contract neu gytundeb lefel gwasanaeth ategol â’r corff y mae’n dymuno iddo weinyddu’r trethi; d. lle y byddai cyfradd dreth amrywiol yn gallu arwain at gynnydd neu ostyngiad yn rhwymedigaethau Llywodraeth y DU, dylid glynu wrth yr egwyddor yn y Datganiad Polisi Ariannu y bydd y corff y mae ei benderfyniad yn arwain at y gost ychwanegol yn cwrdd â’r gost honno; dd. dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod system ariannu Cymru mor dryloyw â phosibl a bod yr elfennau allweddol yn cael eu gwirio’n annibynnol neu eu bod yn dibynnu ar ffynonellau annibynnol. Dylai’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod yn gyfrifol am gynhyrchu rhagolygon o dderbyniadau trethi Cymru, wedi’u seilio ar ddata a fydd yn cynnwys gwybodaeth wedi’i darparu gan Lywodraeth Cymru. Dylid cyhoeddi memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, CThEM a Thrysorlys EM yn y cyfnod cyn gweithredu’r argymhellion yn ogystal â manylion ychwanegol am fethodoleg y rhagolygon. Dylid cymhwyso egwyddor ‘dim niwed’ yn yr un modd ag yn yr Alban; e. dylai Llywodraeth y DU wahodd y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol yn rhinwedd ei swydd yn bennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol i baratoi adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weinyddu’r gyfradd treth incwm i Gymru gan CThEM. Os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu cysylltu â CThEM ynghylch gweinyddu’r trethi llai, a bod CThEM yn cytuno i wneud, mater i Lywodraeth Cymru fydd penderfynu sut y bydd unrhyw drefniant archwilio’n gweithio.

A.30. Bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio’n agos i ddefnyddio pwerau economaidd sydd wedi’u datganoli a rhai sydd heb eu datganoli i gryfhau sylfaen drethi Cymru.

A.31. Y bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno fesul cam er mwyn rheoli risgiau o ran ansefydlogrwydd mewn cyllid cyhoeddus ac enillion annisgwyl neu ergydion niweidiol i Gyllideb Cymru.

A.32. Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael rheolaeth ddeddfwriaethol dros ei weithdrefnau cyllidebol ei hun.

A.33. Y gallai Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol weld bod angen meithrin rhywfaint o allu ychwanegol ar gyfer craffu ariannol.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu