Asteraceae
Un o'r teuluoedd mwyaf o blanhigion blodeuol yw Asteraceae neu Compositae (teulu llygad y dydd). Mae'n cynnwys tua 24,000 o rywogaethau mewn 1600-1700 genws a 12 is-deulu.[1] Ceir y teulu ledled y byd ac eithrio tir mawr Antarctica.[2] Mae gan aelodau'r Asteraceae lawer o flodau bach wedi'u trefnu mewn un pen sy'n edrych fel blodyn sengl. Mae'r teulu'n cynnwys cnydau (e.e. letysen, blodyn yr haul, artisiog), llysiau rhinweddol (e.e. tansi, camri), chwyn (e.e. dant y llew, creulys) a phlanhigion addurnol (e.e. Chrysanthemum, Dahlia).[2]
Math o gyfrwng | tacson |
---|---|
Math | planhigyn blodeuol |
Safle tacson | teulu |
Rhiant dacson | Asterales |
Dechreuwyd | Mileniwm 77. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asteraceae | |
---|---|
12 aelod o'r teulu | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae Bercht. & J.Presl |
Is-deuluoedd | |
Asteroideae Lindley |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Funk, Vicki A.; Alfonso Susanna, Tod F. Stuessy & Harold Robinson. Classification of Compositae Archifwyd 2016-04-14 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 18 Tachwedd 2012.
- ↑ 2.0 2.1 Heywood, Vernon H.; Richard K. Brummitt, Ole Seberg & Alastair Culham (2007) Flowering Plant Families of the World, Royal Botanic Gardens, Kew.