Foyel

pennaeth llwyth o frodorion ym Mhatagonia

Cacique neu bennaeth llwyth o frodorion Patagonia oedd Foyel (fl. tua 1870-1885), a fu'n ymladd yn erbyn byddin Ariannin yn ystod ymgyrchoedd Concwest yr Anialwch.

Roedd ganddo reolaeth ar diroedd eang i'r de o Lyn Nahuel Huapi. Mae ansicrwydd ynghylch ei darddiad ethnig, gyda rhai ffynonellau yn dweud ei fod yn perthyn i'r Araucano, eraill ei fod yn perthyn i'r Tehuelche; daw ei enw o iaith y Mapuche. Cofnodir iddo ef a dau bennaeth arall, Lauquen a Chuquinchano, wneud cytundeb heddwch a llywodraeth Ariannin yn 1873. Aelodau o'r llwyth oedd dan ei arweiniad ef oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar y pedwar fforiwr o'r Wladfa yn Nyffryn y Merthyron 1884, pan laddwyd tri ohonynt ac y dihangodd John Daniel Evans diolch i'w geffyl Malacara. Roedd Foyel yn un o'r ddau cacique olaf i ildio i'r fyddin yn ystod Concwest yr Anialwch; wedi brwydr ar 18 Hydref 1884, ildiodd ef ac Inacayal i fyddin dan Miguel Vidal.

Dywedir iddo gasglu trysor sylweddol o aur, gemau ac arian, ac yn ddiweddarach ei guddio, ond nid oes neb wedi llwyddo i'w ddarganfod. Enwyd afon Río Foyel yn nhalaith Río Negro a phentref El Foyel ar ei ôl.