Confensiwn Cymru Gyfan

Sefydlwyd Confensiwn Cymru Gyfan gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ac Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu ac er mwyn hybu trafodaeth ledled Cymru ar rai agweddau o system ddatganoli presennol y Cynulliad ac a ddylid cynnal refferendwm ar symud i bwerau deddfu sylfaenol ai peidio?

Cylch Gorchwyl Confensiwn Cymru Gyfan yw

  1. Codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o'r trefniadau cyfredol ar gyfer llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru ac o ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf 2006 Llywodraeth Cymru, a'u goblygiadau o ran dyfodol llywodraethu Cymru.
  2. Hwyluso ac ysgogi ymgynghoriad eang, trylwyr a chyfrannol ar bob lefel o gymdeithas yng Nghymru ar y mater o bwerau deddfu sylfaenol.
  3. Paratoi dadansoddiad o'r safbwyntiau a leisiwyd a'r dystiolaeth a gyflwynwyd drwy'r broses hon.
  4. Asesu lefel y gefnogaeth ymhlith y cyhoedd am roi pwerau deddfu sylfaenol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
  5. Adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru'n Un ar unrhyw ganfyddiadau, gydag argymhellion perthnasol i gynnal refferendwm.

Syr Emyr Jones Parry yw cadeirydd y Confensiwn.

Dolenni allanol

golygu