Emyr Jones Parry
Diplomydd o Gymru yw Syr Emyr Jones Parry (ganwyd 21 Medi 1947). Roedd yn Gynrychiolydd y Deyrnas Unedig i NATO o 2001 hyd 2003, a Chynrychiolydd y DU i'r Cenhedloedd Unedig o 2003 hyd 2007. Penodwyd yn gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn 2007, ac ers 2008 ef yw Llywydd Prifysgol Aberystwyth.
Emyr Jones Parry | |
---|---|
Ganwyd | 21 Medi 1947 Sir Gaerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd |
Swydd | Permanent Representative of the United Kingdom to NATO, Cynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i'r Cenhedloedd Unedig, Efrog Newydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg |
Fe'i addysgwyd yn Ysgol y Gwendraeth cyn iddo astudio ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd; yno bu'n llywydd Undeb y Myfyrwyr cyn iddo dderbyn gradd PhD am waith ar bolymerau yng Ngholeg y Santes Catrin, Caergrawnt.
Mae Parry'n briod â Lynn ac mae ganddyn nhw ddau o fechgyn: Mark a Paul. Mae'n aelod brwd o Glwb Criced Morgannwg a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-05. Cyrchwyd 2013-10-26.