Garddwraig, cogyddes, addysgwraig ac awdures o Saesnes oedd Constance Spry (5 Rhagfyr 18863 Ionawr 1960).

Constance Spry
Constance Spry tua 1940.
Ganwyd5 Rhagfyr 1886 Edit this on Wikidata
Derby Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ionawr 1960 Edit this on Wikidata
Berkshire Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Cyflwynodd ei llyfrau poblogaidd ddulliau dylunio rhad a hygyrch i bobl gyffredin, ac yn ôl y Design Museum "democrateiddiodd 'economeg y cartref' ym Mhrydain yng nghanol yr 20g".[1] Roedd hi'n arloeswraig ym maes trefnu blodau,[2] ac yn anterth ei gyrfa dyluniodd Spry flodau ar gyfer seremonïau priodas a choroni'r Frenhines Elisabeth II o Loegr.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) CONSTANCE SPRY: Florist, Author + Social Reformer (1886-1960). Design Museum. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  2. (Saesneg) Fenton, James (16 Hydref 2004). A rose among thorns. The Guardian. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  3. (Saesneg) Fortnam, Joanna (13 Tachwedd 2011). Society florist Constance Spry remembered in Mayfair. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.

Llyfryddiaeth golygu

  • Shephard, Sue. The Surprising Life of Constance Spry (Macmillan, 2010).


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.