Copt
Grŵp ethnogrefyddol yw'r Coptiaid sy'n cynnwys Cristnogion brodorol yr Aifft. Amcangyfrifir fod rhwng 13,500,000 a 19,000,000 ohonynt, tua 20% o'r boblogaeth. Mae'r mwyafrif ohonynt yn aelodau o'r Eglwys Goptaidd.
Enghraifft o'r canlynol | Grŵp ethnogrefyddol |
---|---|
Math | Afroasiatic peoples |
Rhan o | Afroasiatic peoples |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir Copteg fel iaith litwrgi yr Eglwys Goptaidd, a bu nifer o ymdrechion i'w hadfywio fel iaith lafar. Credir bod tua 300 o bobl yn medru'r iaith, sy'n ffurf o Eiffteg. Maent yn un o gymunedau Cristnogol hynaf y byd.
Coptiaid enwog
golygu- Boutros Boutros-Ghali, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
- Magdi Yacoub, llawfeddyg