Tîm pêl-droed amatur o Lundain oedd Corinthian Football Club. Chwaraeodd y clwb ar sawl maes, gan gynnwys Crystal Palace, Queen's Club ac yn Leyton. Ffurfiwyd y clwb ym 1882 gan N. Lane Jackson, is-ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr er mwyn cadw at ethos amatur a cheisio sicrhau carfan o chwaraewyr fyddai'n gallu herio goruchafiaeth tîm cenedlaethol Yr Alban ar y pryd[1].

Corinthian
Enw llawn Corinthian Football Club
Sefydlwyd 1882

Ym 1939, unodd y clwb gyda chlwb amatur Casuals er mwyn sefydlu Corinthian-Casuals F.C.

Dim ond gemau cyfeillgar oedd y clwb yn chwarae yn wreiddiol gan y byddai cystadlu am dlws neu gwobr yn mynd yn erbyn ethos amatur y clwb

Roedd Corinthian yn enwog am eu teithiau tramor gan ymweld â sawl gwlad gan gynnwys De Affrica, Hwngari, Yr Almaen, Bohemia, Y Swistir, Ffrainc, Sbaen, Canada a'r Unol Daleithiau[2]. Roedd y Cymro, Morgan Maddox Morgan-Owen yn gapten ar glwb Cornthian ar eu taith i Frasil ym 1910[3]; taith welodd y clwb yn ysbrydoli gweithwyr rheilffordd yn Sao Paulo i sefydlu Sport Club Corinthians Paulista[4].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Clubs: Corinthian". England Football Online. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Cornithian Tours". Corinthian-Casuals.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Corinthians - Taking the Beautiful Game Across the Globe". Corinthian-Casuals.com.
  4. "No Bom Retiro, Em 1910, Começa esta História" (yn Portwgaleg).CS1 maint: unrecognized language (link)