Portiwgaleg
Portiwgaleg (Português) | |
---|---|
Siaredir yn: | Angola, Andorra, Brasil, Penrhyn Verde, Dwyrain Timor, Gini Bisaw, Macau, Mosambic, Namibia, Paragwâi, Portiwgal, São Tomé a Príncipe a gwledydd eraill. |
Parth: | |
Cyfanswm o siaradwyr: | 262 miliwn (2014) |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 6 |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Italaidd |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Angola, Brasil, Penrhyn Verde, Dwyrain Timor, Yr Undeb Ewropeaidd, Gini Bisaw, Gini Gyhydeddol, Macau, Mosambic, Portiwgal and São Tomé a Príncipe |
Rheolir gan: | Instituto Internacional de Língua Portuguesa; CPLP |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | pt |
ISO 639-2 | por |
ISO 639-3 | por |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Mae Portiwgaleg (hefyd Portiwgeeg; português neu'n llaw: língua portuguesa) yn iaith Romáwns a siaredir hi'n bennaf ym Mrasil, Portiwgal a rhai gwledydd eraill yn Affrica a De-ddwyrain Asia gan gynnwys Angola, Penrhyn Verde, Gini Bisaw a Mosambic. Mae ganddi statws swyddogol hefyd yn Nwyrain Timor, Gini Gyhydeddol, a Macau.
Mae'n iaith sy'n agos iawn at y Galisieg, ac i raddau llai at y Sbaeneg a'r Gatalaneg, ac mae iddi elfennau sy'n debyg i'r Eidaleg a Ffrangeg gan fod gan yr holl ieithoedd hyn wreiddiau Lladin.[1]
Portiwgaleg - Cymraeg
golyguCyfarchion
golyguBom dia = Bore da
Boa tarde = Prynhawn da
Boa noite = Noswaith dda / Nos da
Oi = Helô
Olá = Helô
Como vai? = Sut mae?
Como estás?= Sut mae?
Como você está?= Sut mae? (ym Mrasil)
Bem = iawn
..., obrigado = ..., diolch (g)
..., obrigada = ..., diolch (b)
Cyflwyno chi'ch hun ac eraill
golygu(Eu) Sou [João] = [Siôn] ydw i
(Tu) és [Angharad] = [Angharad] wyt ti (anffurfiol, Brasil)
(Você) é [Carlos] = [Siarl] wyt ti
(Ele) é [...] = [...] ydy e(o)
(Ela) é [...] = [...] ydy hi
(Nós) somos [...] e [...] = [...] a [...] ydyn ni
(A gente) é [...] = [...] ydyn ni (anffurfiol, Brasil)
(Vós) sois [...] = [...] ydych chi
(Vocês) são [...] = [...] ydych chi (anffurfiol, Brasil)
(Eles) são [...] = [...] ydyn nhw (g)
(Elas) são [...] = [...] ydyn nhw (b)
Ffurfiau negyddol
Rhoi 'não' o flaen y berfau:
Eu sou professor = Athro ydw i
Eu não sou professor = Dim athro ydw i
Ffurfiau gofynnol
Rhoi '?' ar y diwedd
Você é professor = Athro wyt ti
Você é professor? = Athro wyt ti? (Ydy e'n gywir?)
Ela não é médica > Ela não é médica?
[médica = meddyg]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Estados-membros da CPLP" (yn Portuguese). 28 Chwefror 2011.CS1 maint: unrecognized language (link)