Morgan Maddox Morgan-Owen

Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Morgan Maddox Morgan-Owen (20 Chwefror 1877- 14 Awst 1950). Llwyddodd i ennill 12 cap dros Gymru rhwng 1897 a 1907 ac roedd yn aelod blaenllaw o glwb pêl-droed amatur Corinthian. Cafodd ei ddisgrifio fel "y Corinthian mwyaf o'r cyfnod Edwardaidd" gan hanesydd y clwb, Norman Creek[1].

Morgan Maddox Morgan-Owen
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni20 Chwefror 1877
Man geniCaerdydd, Cymru
Dyddiad marw14 Awst 1950(1950-08-14) (73 oed)
Man lle bu farwWillington Hall, Swydd Derby
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1896–1900Prifysgol Rhydychen
1898–1913Corinthian
Tîm Cenedlaethol
1897–1907Cymru12(2)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Bywyd Cynnar

golygu

Cafodd Morgan-Owen ei eni yng Nghaerdydd yr hynnaf o chwech o blant i Timothy Morgan-Owen, Arolygwr Ysgolion, ac Emma Maddox[2]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Colet, Y Rhyl, Ysgol Amwythig a Choleg Oriel, Rhydychen gan gynrychioli tîm pêl-droed Prifysgol Rhydychen yn eu gêm flynyddol yn erbyn Prifysgol Caergrawnt ar dair achlysur - ym 1897, 1898 a 1900 a sgoriodd y ddwy gôl yn y fuddugoliaeth 2-0 dros Caergrawnt ym 1900.[3][4]

Gyrfa Bêl-droed

golygu

Gwnaeth Morgan-Owen ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym 1897 yn erbyn Iwerddon tra ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedi gadael y Brifysgol, chwaraeodd i dîm amatur enwog Corinthian. Roedd yn gefnogwr brwd o'r ethos amatur ac ym 1906, pan gafwyd rhaniad yng Nghymdeithas Bêl-droed Lloegr dros chwaraewyr a chlybiau proffesiynol, roedd Morgan-Owen yn allweddol wrth ffurfio'r Gymdeithas Bêl-droed Amatur (Saesneg: The Amateur Football Association)[3].

Ym 1903, er cael ei ddewis i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr, penderfynnodd Morgan-Owen, a'i frawd Hugh Morgan-Owen, oedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol, i chwarae i dîm yr Old Salopians yn erbyn yr Old Carthusians yn rownd derfynol Cwpan Arthur Dunn - cystadleuaeth i dimau cyn ddisgyblion Ysgolion Bonedd - ar yr un prynhawn[3][5].

Teithiodd Morgan-Owen gyda thîm Corinthian i Hwngari, Yr Almaen, Bohemia, Y Swistir, Ffrainc, Sbaen, Canada a'r Unol Daleithiau ac roedd yn gapten y clwb ar eu taith i Frasil ym 1910[6]; taith welodd y clwb yn ysbrydoli gweithwyr rheilffordd yn Sao Paulo i sefydlu Sport Club Corinthians Paulista[7].

Ym 1921, daeth Morgan-Owen yn lywydd ar y clwb ac roedd yn is-lywydd anrhydeddus ar y Gymdeithas Bêl-droed Amatur.

 
Morgan-Owen, gwaelod dde, cyn cychwyn ar daith gyda thim y Brifysgol yn 1899.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Ym 1914, roedd Corinthian FC ar daith arall i Dde America gan hwylio o Southampton. Erbyn cyrraedd Brasil roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cychwyn, felly teithiodd Morgan-Owen a'i gyfoedion yn syth yn ôl i Brydain er mwyn gwasanaethu[6]. Cyn y rhyfel, roedd Morgan-Owen wedi bod yn Gapten gyda Chatrawd Essex (Saesneg: Essex Regiment) Fyddin Diriogaethol ac ymunodd â'r gatrawd ar ôl dychwelyd o Frasil.

Cafodd y catrawd eu gyrru i Gallipoli lle cafodd Morgan-Owen ei ddyrchafu i fod yn Uwchgapten cyn cael ei anafu a'i yrru i'r Aifft. Ym 1916, ar ôl gwella o'i anafiadau, cafodd Morgan-Owen ei yrru i ymuno â'r 11th Battalion Rifle Brigade oedd yn Guillemont, Ffrainc yn paratoi ar gyfer Brwydr y Somme[8] a parhaodd gyda'r catrawd hyd at Drydedd Brwydr Ypres ym 1917.

Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd ei benodi'n Lefftenant-Cyrnol i arwain y 10th Battalion Rifle Brigade[9] a chafodd ei urddo â'r D.S.O. yn ystod Brwydr Cambrai[3].

Wedi'r Rhyfel

golygu

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd Morgan-Owen i ddysgu a cafodd ei benodi'n athro yn Ysgol Repton lle roedd yn athro ar Roald Dahl[10]. Ar ôl ymddeol ym 1937, daeth yn Lywodraethwr ar Ysgol Repton a Choleg Amaethyddol Midland, oedd yn rhan o Brifysgol Nottingham.

Bu farw yn Willington Hall, Swydd Derby ar 14 Awst 1950 yn 73 mlwydd oed ac mae cofeb iddo yn Eglwys St. Michael, Willington.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The Cardiff football star who helped to kick-start Brazil's love of football". Western Mail. WalesOnline.
  2. "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton. owen.cholerton.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-08-02.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Davies, Gareth M.; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. t. 144. ISBN 1 872424 11 2.
  4. "Varsity Match 1899/1900". ouafc.com.[dolen farw]
  5. "History of the Old Salopian Football Club". Old Salopian FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-28. Cyrchwyd 2015-08-02.
  6. 6.0 6.1 "Corinthians - Taking the Beautiful Game Across the Globe". Corinthian-Casuals.com.
  7. "No Bom Retiro, Em 1910, Começa esta História" (yn Portwgaleg).CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-08-03.
  9. Hodgkinson, Dr Peter E. British Infantry Battalion Commanders in the First World War]. t. 78. ISBN 1 472438 256.
  10. "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-08-03.