Cornbigau

teulu o adar
Cornbigau
Amrediad amseryddol:
Mïosen hwyr - Presennol
Cornbig Malabar
Tockus griseus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Bucerotiformes
Teulu: Bucerotidae
Rafinesque, 1815
Genera

14

Grŵp o adar trofannol ac isdrofannol ydy'r Cornbigau sydd hefyd yn 'deulu' o rywogaethau (enw gwyddonol neu Ladin: Bucerotidae).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Bucerotiformes.[2][3]

Maen nhw i'w gweld yn nhrofannau ac isdrofannau Affrica, Asia a Melanasia. Eu nodwedd amlycaf yw eu pigau hir, crwm sy'n aml iawn yn lliwgar iawn, ac felly y cafodd ei enw. Mae'r gair "buceros" yn yr iaith Roeg yn golygu 'corn buwch'. Dyma'r unig aderyn lle asiwyd eu fertibra cyntaf ac ail yn ei gilydd. Ffrwyth ac anifeiliaid bychan yw eu bwyd ac maent yn nythu mewn cilfachau naturiol, gwag, oddi fewn i goed, ac weithiau ar glogwyni. Mae rhai rhywogaethau'n hynod o brin ac o dan fygythiad.

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Cornbig Malabar Ocyceros griseus
Cornbig Mawr Brith Buceros bicornis
Cornbig Sri Lanka Ocyceros gingalensis
Cornbig arianfochog Bycanistes brevis
Cornbig bochfrown Bycanistes cylindricus
Cornbig helmfrith Bycanistes subcylindricus
Cornbig llwyd India Ocyceros birostris
Cornbig pigfelyn Tockus flavirostris
Cornbig tywyll Anorrhinus galeritus
Cornbig utganol Bycanistes bucinator
Cornbig von der Decken Tockus deckeni
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1. Bywiadur Llên Natur / Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 3 Mehefin 2016
  2. del Hoyo, J.; Elliot, A. & Christie D. (gol.). (2007). Handbook of the Birds of the World. ISBN 978-84-96553-42-2
  3. ICZN 1999. International Code of Zoological Nomenclature. 4ydd rhifyn. The International Trust for Zoological Nomenclature, Llundain. 306 tt.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: