Cornelius Marshall Warmington
Roedd Cornelius Marshall Warmington (5 Mehefin 1842 – 12 Rhagfyr 1908) yn fargyfreithiwr a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Gorllewin Sir Fynwy rhwng 1885 a 1895
Cornelius Marshall Warmington | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
1 Mehefin 1842, 5 Mehefin 1842 ![]() |
Bu farw |
12 Rhagfyr 1908 ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth |
gwleidydd ![]() |
Swydd |
Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad |
Edward Warmington ![]() |
Mam |
Mary Payne ![]() |
Priod |
Ann Winch ![]() |
Plant |
unknown Warmington, unknown daughter Warmington, Sir Marshall Denham Warmington, 2nd Bt., Herbert Andrew Cromartie Warmington, Edward Stephen Warmington, Mary Agnes Marshall Warmington ![]() |
Bywyd PersonolGolygu
Ganwyd Warmington yn Colchester, Swydd Essex, yn fab i Edward John Warmington, marsiandwr, a Mary (née Medley) ei wraig.[1]
Cafodd ei addysgu gan diwtoriaid yn y cartref cyn mynychu Ysgol Ramadeg Colchester. Bu'n efrydwr allanol ym Mhrifysgol Llundain lle graddiodd yn y gyfraith ym 1858.
Ym 1871 priododd Ann, ferch Edward Wynch; cawsant tri mab ac un ferch.
GyrfaGolygu
Ar ôl ymadael a'r ysgol aeth i weithio fel clerc erthyglau mewn cwmni cyfreithiol yn ei dref enedigol, gan gymhwyso fel cyfreithiwr ym 1858. Wedi cyfnod yn gweithio fel cyfreithiwr yn Colchester a Llundain cafodd ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1869 a dechrau gweithio fel bargyfreithiwr ar Gylchdaith Rhydychen gan arbenigo yng Nghyfraith Ecwiti.[2]
Ym 1882 fe wnaed yn Gwnsler y Frenhines, ac ym 1885 fe wnaed yn feinciwr yn y Deml Ganol, gwasanaethodd hefyd fel trysorydd a llywydd y Deml Ganol.[3]
Gyrfa wleidyddolGolygu
Safodd Warmington fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Sir Fynwy yn etholiad cyffredinol 1880, gan ddod yn bedwaredd allan o bedwar ymgeisydd. Er na fu'n llwyddiannus fe dderbyniodd croeso gwresog gan y pleidleiswyr a chefnogwyr yn rhannau o'r Sir.[4]
Pan rannwyd etholaeth Sir Fynwy yn dair etholaeth ar gyfer etholiad 1885 safodd Warmington dros y Rhyddfrydwyr yn etholaeth y Gorllewin gan ennill yn gyffyrddus gyda 83% o'r bleidlais. Cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad ym 1886 a llwyddodd i ennill dros 80% o'r bleidlais eto wrth gael ei herio gan y Ceidwadwyr ym 1892.
Etholiad cyffredinol 1885: Gorllewin Mynwy | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Cornelius Marshall Warmington | 6,730 | 83.4 | ||
Ceidwadwyr | B. F. Williams | 1,341 | 16.6 | ||
Mwyafrif | 5,389 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 82.6 |
Cyn etholiad cyffredinol 1918 doedd etholiadau yng Ngwledydd Prydain ddim yn cael eu cynnal ar yr un ddiwrnod ym mhob un etholaeth, gan hynny roedd modd i ymgeisydd a gollodd ei sedd mewn etholiad cynnar ail ymgeisio mewn sedd arall a oedd yn pleidleisio yn hwyrach yn y cyfnod etholiadol. Ymysg y collwyr cynnar yn etholiad cyffredinol 1895 oedd Syr William Vernon Harcourt, arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn Nhŷ’r Cyffredin a Changhellor y Trysorlys (roedd y Brif Weinidog, Rosebery, yn Arglwydd). Mae'n debyg mae un o'r rhesymau iddo golli oedd bod bragwyr a thafarnwyr ei etholaeth yn Darby wedi cynllwynio yn ei erbyn oherwydd ei gefnogaeth i'r Dewis Lleol, cynllun byddai'n caniatáu i etholwyr lleol pleidleisio i gau pob tŷ tafarn yn eu plwyf; polisi oedd a chryn gefnogaeth iddi yn y Gymru anghydffurfiol.[5] Yn sgil colli sedd Harcourt penderfynodd Warmington i dynnu ei enw yn ôl o'r ras yng Ngorllewin Mynwy er mwyn i Harcourt cael sefyll yn ei le a chael ail gyfle i ddychwelyd i'r Senedd,[6] etholwyd Harcourt a daeth cyfnod Warmington fel seneddwr i ben.
Wedi'r SeneddGolygu
Wedi ildio ei sedd aeth Warmington yn ôl i'w gwaith fel bargyfreithiwr, cafodd sawl cynnig i gael ei ddyrchafu i'r fainc fel barnwr ond gwrthodwyd pob cynnig. Cafodd ei greu yn Farwnig ym mis Mehefin 1908[7]
MarwolaethGolygu
Bu farw yn ei gartref yn Llundain ym 1908 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent St Peter's Bredhurst yn swydd Caint[8]; olynwyd ef fel barwnig gan ei fab Marshal Denham Warmington.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Weekly Mail 19 Rhagfyr 1908 Sir C M Warrmington Dead [1] adalwyd 28 Mehefin 2015
- ↑ Pontypool Free Press 5 Mawrth 1886 Mr C M Warmington MP [2] adalwyd 28 Mehefin 2015
- ↑ Cardiff Times 2 Medi 1893 Parliamentary History of Monmouthshire [3] adalwyd 28 Mehefin 2015
- ↑ Cardiff Times 23 Hydref 1880 Monmouthshire Liberal Assocciation [4] adalwyd 28 Mehefin 2015
- ↑ Papur Pawb 3 Awst 1895 Syr William Harcourt AS [5] adalwyd 28 Mehefin 2015
- ↑ Cardiff Times 20 Gorffennaf 1895 Sir William Harcourt fôr West Monmouthshire [6] adalwyd 28 Mehefin 2015
- ↑ Cardiff Times 27 Mehefin 1908 King's Honours [7] adalwyd 28 Mehefin 2015
- ↑ Find a Grave Sir Cornelius Marshall Warmington [8] adalwyd 28 Mehefin 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Gorllewin Sir Fynwy 1885 – 1895 |
Olynydd: William Vernon Harcourt |