Nofel gan Anthony Trollope yw Cousin Henry a gyhoeddwyd gyntaf ym 1879. Mae'r stori'n delio â'r drafferth sy'n codi o ddiffyg penderfyniad sgweier wrth ddewis etifedd i'w ystâd.[1]

Cousin Henry
Wynebddalen yr argraffiad cyntaf
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurAnthony Trollope
CyhoeddwrChapman and Hall Edit this on Wikidata
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddiHydref 1879 Edit this on Wikidata
GenreFfuglen, Nofel
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Cyhoeddwyd y nofel, sydd wedi ei leoli yn Sir Gaerfyrddin, fel stori gyfres mewn dau bapur newydd, The Manchester Weekly Times, a The North British Weekly Mail rhwng 8 Mawrth a 24 Mai 1879. Cyhoeddwyd y nofel ar ffurf llyfr dwy gyfrol yn hwyrach yn yr un flwyddyn gan gwmni cyhoeddi Chapman and Hall, Llundain.[2]

Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[3]

Cymeriadau golygu

  • Isabel Broderick,
  • Henry Jones
  • Nicholas Apjohn,
  • Indefer Jones
  • Mr Balsam
  • Mr Broderick
  • Mrs Broderick
  • Joseph Cantor yr hynaf
  • Joseph Cantor iau (mab yr uchod)
  • John Cheekey
  • Gregory Evans
  • John Griffith

Plot golygu

Mae Indefer Jones yn sgweier oedrannus, rhwng saith deg ac wyth deg oed, sy'n berchen ar faenor ac ystâd fawr, Llanfeare, yng Nghaerfyrddin. Mae ei nith, Isabel Brodrick, wedi byw gydag ef ers blynyddoedd wedi ail briodas ei thad. Mae Isabel yn cael ei hoffi gan bawb ac yn annwyl iawn i'w hewyrth Indefer. Fodd bynnag, gan fod gan yr hen ŵr gredoau traddodiadol cryf mae'n credu bod rhaid iddo drosglwyddo'r ystâd i etifedd gwrywaidd ar adeg ei farwolaeth a sicrhau bod yr ystâd yn parhau i fod yn nwylo un o'r enw Jones.

Ei unig berthynas gwrywaidd trwy waed yw ei nai Henry Jones, clerc yn Llundain. Yn y gorffennol, mae Henry wedi mynd i ddyled bu'n rhaid i'r sgweier ad dalu, wedi cael ei ddiarddel o Brifysgol Rhydychen, ac yn gyffredinol wedi gwneud argraff wael ar ei ymweliadau achlysurol â Llanfeare. Serch hynny, dywedir wrth Henry am fwriad ei ewythr i'w wneud yn etifedd ac fe'i gwahoddir am ymweliad. Mae Isabel yn gwrthod awgrym ei hewythr y dylai ddatrys ei gyfyng-gyngor trwy briodi Henry, gan na all dioddef ei chefnder. Mae Indefer Jones yn canfod bod ei nai'r un mor ffiaidd ag erioed. O ganlyniad, mae'n goresgyn ei ragfarn ac yn newid ei ewyllys, o blaid Isabel. Yn anffodus, mae'n marw cyn y gall ddweud wrth unrhyw un.

Mae Henry yn dod o hyd i'r ewyllys newydd wedi'i chuddio mewn llyfr o bregethau. Mae'n ansicr be i wneud, i gadw'n dawel am ei ddarganfyddiad neu i ddatgelu lleoliad y ddogfen. Nid yw'n ddigon rhinweddol i ildio'r ystâd nac yn ddigon drygionus i losgi'r ddogfen, gan ofni gwarth, dedfryd hir o garchar ac, yn anad dim, damnedigaeth dragwyddol. Mae'n penderfynu gwneud dim ond adael yr ewyllys lle canfu hi gan gysuro'i hun trwy resymu na all gwneud dim bod yn drosedd.

Roedd dau o'i denantiaid wedi bod yn dystion i ewyllys olaf Indefer Jones, ond gan na ellir dod o hyd i'r ewyllys, er gwaethaf chwiliad trylwyr o'r tŷ, mae Henry yn etifeddu'r ystâd. Fodd bynnag mae amheuon bod rhywbeth o'i le yn cael eu cryfhau trwy ymddygiad Henry. Mae rhai o weision hirdymor yr hen sgweier yn ymadael wedi eu ffieiddio gan y sgweier newydd. Mae Henry hefyd yn treulio oriau yn y llyfrgell, lle mae'r ewyllys wedi'i chuddio.

Mae papur newydd lleol yn dechrau cyhoeddi adroddiadau am y sefyllfa sy'n sarhaus ac yn ymddangos yn enllibus i Henry. Mae'n ei gyhuddo o ddinistrio'r ewyllys ac amddifadu Isabel o'i haeddiant i'r ystâd. Mae cyfreithiwr yr hen sgweier, Mr Apjohn, yn amau bod Henry’n gwybod mwy nag yr oedd yn cyfaddef. Mae'n ymweld â'r sgweier newydd gan gogio ei fod am ei amddiffyn rhag cyhuddiadau'r papur newydd. Mae'n pwyso ar y dyn ifanc anfodlon i gymryd camau cyfreithiol am enllib yn erbyn y golygydd. Mae Henry yn canfod bod hyn ond yn gwneud pethau'n waeth. Mae'r syniad o gael ei groesholi yn y blwch tystion yn ei lenwi ag ofn.

Mae Mr Apjohn, trwy gwestiynu craff, yn cael syniad da parthed lleoliad yr ewyllys newydd. Mae Mr Apjohn a Mr Brodrick, tad Isabel, yn ymweld â Henry gartref ac yn dod o hyd i'r ddogfen, er gwaethaf ymdrechion aneffeithiol Henry i'w hatal. Oherwydd na ddinistriodd yr ewyllys does dim modd cyflwyno achos clir o dwyll yn erbyn Henry, caniateir iddo ddychwelyd i Lundain heb staen ar ei gymeriad a gyda swm o £4,000 o etifeddiaeth o'r wir ewyllys.

Wedi i Isabel priodi mae ei gŵr yn mabwysiadu'r enw Jones i gyflawni dymuniad ei hen ewyrth i'r ystâd parhau i fod yn eiddo i un o'r enw Jones.

Cyfeiriadau golygu

  1. Copi o'r llyfr ar wefan Internet Archive
  2. The Trollope Society, Cousin Henry adalwyd 28 Rhagfyr 2019
  3. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-29.