Cowbois Rhos Botwnnog

(Ailgyfeiriad o Cowbois Rhos Botwnog)

Band Cymraeg yw Cowbois Rhos Botwnnog. Mae'r band yn cynnwys tri brawd o Fotwnnog, sef Iwan, Dafydd ac Aled Hughes.

Gyrfa golygu

Ffurfiwyd y band yn 2006. Yn arbrofi gyda ffurfiau canu gwlad, gwerin a roc, gan ennill gryn sylw o'r sîn roc Gymraeg gydag ymddangosiadau ar nifer o raglenni cerddoriaeth Gymraeg.

Rhyddhawyd yr albwm gyntaf ganddynt, 'Dawns Y Trychfilod' ar label Sbrigyn Ymborth yn 2007. Roeddent eisoes wedi denu nifer o ffans a chyrhaeddodd yr albwm rif 1 ar siart C2. Enillodd y band y Wobr yng Ngwobrau RAP 2007 am y Band a ddaeth i amlygrwydd.

Yn 2008, penderfynodd y band newid ei sain gan ffocysu'n fwy ar elfen canu gwlad. Gan gydweithio â Gwyneth Glyn a'r cerddor Euron "Jos" Jones, rhyddhawyd y sengl, 'Paid a Deud' hefyd ar label Sbrigyn, gyda'r trac teitl yn defnyddio cân werin Gymreig draddodiadol fel ysbrydoliaeth.

Yn ystod haf 2009, ymunodd Llyr Pari o Jen Jeniro â'r band fel gitarydd byw ychwanegol gan berfformio gyda'r Cowbois mewn cyngerddau mawr fel Gŵyl Wakestock ac ym Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn 2010, cyfansoddi oedd y brif ffocws. Ym mis Rhagfyr 2010 rhyddhaodd y Cowbois yr albwm, 'Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn'.

Rhyddhawyd yr albwm 'Draw Dros y Mynydd' yn 2012, ac yna'r albwm 'IV' yn 2016.

Aelodau golygu

  • Iwan Hughes - Llais, Gitar, Organ Geg, Banjo, Allweddellau, Gitar Fas, Offerynnau Taro
  • Dafydd Hughes - Drymiau, Offerynnau Taro, Llais
  • Aled Hughes - Gitar Fas, Llais, Gitar

--

  • Llyr "Tonto" Pari- Gitar
  • Euron "Jos" Jones - Gitar Ddur Bedal
  • Branwen "Sbrings" Williams- Piano, organ, llais cefndir
  • Osian Williams- Gitar, llais, offerynnau taro (Achlysurol)

Disgograffi golygu

Recordiau hir golygu

Senglau golygu

  • Paid â Deud (ar y cyd â Gwyneth Glyn) - (Sbrigyn Ymborth) - 2008

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu