Math o grempog (Llydaweg: krampouezh) tenau iawn yw crêpe neu grép, fel arfer wedi ei wneud o flawd gwenith neu wenith yr hydd. Mae'r gair o darddiad Ffrengig, yn deillio o'r Lladin crispa, yn golygu "cyrliog". Er fod crêpes yn cael eu cysylltu fel arfer gyda Llydaw, maent yn cael eu bwyta'n helaeth ar draws Ffrainc, Gwlad Belg, Quebec a sawl ardal arall yn Ewrop a Gogledd Affrica a hyd yn oed Aberystwyth. Y crép symlaf yw hwnnw gyda siwgwr yn unig oddi fewn iddo, i'w flasu, a cheir mathau mwy amheuthun e.e. crép flambé, crêpes Suzette neu galetts sawrus.

Crêpe
Mathpancake Edit this on Wikidata
Rhan ocoginio Ffrainc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysblawd gwenith, wy, llaeth, menyn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Caffe y Caba, Aberystwyth yn gwerthu crêps, 2024

Cyfeiriadau

golygu