Craig y Cilau

mynydd yng Nghymru

Gwarchodfa Natur Genedlaethol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Powys, yw Craig y Cilau. Mae'r safle yn glogwyn serth o galchfaen, ar ochr ogleddol Mynydd Llangatwg yng nghymuned Llangatwg, tua 2 filltir i'r de-orllewig o dref Crughywel.

Craig y Cilau

Fe'i dynodwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol yn 1959, yn bennaf oherwydd pwysigrwydd y planhigion a geir yno. Mae ei arwynebedd yn 157 acer. Ceir amrywiaeth o gynefinoedd, yn cynnwys coedwig, y clogwyni a rhostir. Ymhlith y planhigion prin yma mae Dianthus deltoides, Hornungia petraea a'r boblogaeth fwyaf deueuol ym Mhrydain o Circaea alpina. Ceir pum rhywogaeth o'r genws Sorbus. Mae tua 50 rhywogaeth a adaeryn yn magu yma, yn cynnwys Mwyalchen y Mynydd a'r Gigfran ar y clogwyni. Ceir nifer o ogofâu yma, ac mae ystlumod yn llochesu yn un ohonynt, Agen Allwedd.