Mwyalchen y mynydd

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Mwyalchen y Mynydd)

Mae Mwyalchen y mynydd (Turdus torquatus) yn aelod o deulu'r Brychion. Mae'n debyg iawn i'r Fwyalchen ond yn byw ar dir uchel, creigiog.

Dim ond yn Ewrop y mae Mwyalchen y mynydd yn nythu, a dim ond lle mae tir uchel. Mae'n cyrraedd cyn belled i'r dwyrain a'r Cawcasws. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf. Nid yw'n heidio fel rheol, ond weithiau gellir gweld nifer o adar gyda'i gilydd lle mae cyflenwad da o fwyd ar gael.

Gall fwyta pryfed, ymlusgiaid a gwahanol fathau o aeron. Mae'n nythu mewn llwyni isel yn y mynyddoedd neu mewn agen yn y graig. Nid yw'n heidio fel rheol, ond weithiau gellir gweld nifer o adar gyda'i gilydd lle mae cyflenwad da o fwyd ar gael.

Mae'n aderyn gweddol gyffredin ym mynyddoedd Cymru, yn enwedig yn Eryri, ond mae'r niferoedd wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Nodweddion adnabod golygu

Mae gan Fwyalchen y Mynydd ddarn gwyn ar ffurf torch ar ei fron, sy'n ei gwneud hi'n hawdd i wahaniaethu rhyngddo â cheiliog Mwyalchen. Ceir mwy o liw arian ar adenydd Mwyalchen y Mynydd hefyd. Mae'r ieir yn anoddach i'w gwahaniaethu, ond mae gan iâr Mwyalchen y Mynydd rywfaint o liw goleuach ar ei bron, ond yn llawer llai amlwg na'r ceiliog. Er mai mwyalchen gyda thorch wen yw'r fwyalchen fynydd i bob pwrpas mae'n fwy ystwyth, yn fwy unionsyth ac yn sioncach na'r fwyalchen gyda chynffon hwy. Mae hefyd yn fwy swil a gofalus ei hymddygiad.

Yr arwydd gorau yn y gwanwyn bod y fwyalchen fynydd yn ôl ar ei diriogaeth yw cân y ceiliog. Mae'r gân yn cario'n bell ac yn diasbedain wrth i'r ceiliog ganu o glogwyn neu greigle ac o ymgyfarwyddo nid oes modd ei gamgymryd a chân arall. Mae sawl gwahanol fathau o alwad hefyd:   dyma enghraifft. 

Ymddygiad golygu

Mae Mwyalchen y mynydd yn aderyn mudol sy'n cyrraedd Cymru tua mis Ebrill ac yn gadael yn yr hydref. Mae'r is-rywogaeth T.t. torquatus (sy'n treulo'r tymor bridio yng ngwledydd Prydain a gogledd-orllewin Ewrop) yn gaeafu'n bennaf yn ne Sbaen a Mynyddoedd yr Atlas yng ngogledd-orllewin Affrica, ond mae'r adar sy'n mudo o wledydd Scandinafia yn gaeafu yn ne Ffrainc. Er fod yr is-rywogaeth T.t. alpestris o dde-ddwyrain Ewrop yn tueddu i aeafu ar dir isel oddi fewn i'w hardal fridio, mae rhai'n gaeafu ar ynysoedd Môr y Canoldir ac efallai gogledd Affrica.[1][2]

Nid yw'n heidio fel rheol, ond weithiau gellir gweld nifer o adar gyda'i gilydd lle mae cyflenwad da o fwyd ar gael.

 
Dyluniad o haid o fwyeilch y mynydd

Serch hyn ceir heidiau achlysurol o hyd at 80 aderyn, sy'n eithriadol, yn ystod anterth yr ymfudo yn Ebrill. System paru unweddog llwyr sydd ganddynt yn ystod y tymor ond tybir bod y rhwymiadau rhwng y pâr yn chwalu ar ôl y tymor nythu. Mae eu hymddygiad yn heterorhywiol a'r ceiliogod yn tueddu i gyrraedd y diriogaeth o flaen yr ieir.

Mae gwasgariad y nythod yn awgrymu trefn unigolyddol a thiriogaethol. Ym Meirionnydd (Cymru) darganfu P. Hope-Jones (1979) 36 par mewn 112km2 (dwysder o hyd at 1.3 -1.5 par/km2)[3]

Credai chwarelwyr Maenofferen, Blaenau Ffestiniog y byddai mwyalchen y mynydd yn tueddu i gyrraedd ar 29 Mawrth bron pob blwyddyn yn ddiffael.[4]

Bridio golygu

Mae'n nythu mewn llwyni isel neu mewn agen yn y graig mewn dyffrynnoedd serth lle bydd meini a grug yn cuddio'r nythod. Fe'u hadeiledir ar y ddaear ei hun neu'n agos i'r ddaear.

Dodwyir yr wyau o ganol Ebrill i ganol Mehefin ac mae cywion yn y nyth pythefnos yn hwyrach. Y cyfnod o ddeor hyd mynd dros y nyth yw 14-16 diwrnod. O'r 297 safle nythu a ystyriwyd, roedd 9% ar y ddaear, 36% mewn tyfiant llai na 45 cm o daldra (yn bennaf mewn grug, llus neu redyn), 4% mewn tyfiant 45–90 cm, 2% mewn coed hyd at 3m uwchben y ddaear a 49% ar silff craig neu agen (7% o rhain mewn siafftiau hen waith neu ogofeydd calchfaen). Mae'r nyth yn cynnwys 3 adran: haen denau o fân frigau wedi eu gwasgu ar y tu allan; plastrad o fwd a mwsogl yn gymysg â gwair torredig; leinin tew o fân laswellt a gwreiddiach i guddio'r mwd. Atgyfnerthir ymyl y leinin gyda deiliach, coesynnau gwair a mân frigau wedi eu plethu'n gryf wrth ei gilydd. Gofelir am y cywion yn y nyth am 14-16 diwrnod gan y ddau riant ac fe'u gorir am y 6-8 niwrnod cyntaf. Mae'r cywion rhydd yn annibynnol o'u rhieni ar ôl 12 niwrnod arall ac fe allant genhedlu eu hunain ar ôl blwyddyn. O'r 79 nythaid o wyau a astudiwyd yg ngwledydd Prydain, collwyd 24 cyn iddynt ddeor, hynny yn bennaf oherwydd rheibio neu wrthgiliad[5].

 
Y gwryw a'r fenyw. Ffynhonnell: Naturgeschichte der Vögel Mitteleuropas 1905.
 
Wyau a gedwir yn Amgueddfa Wiesbaden, Großer Arber, Bavaria, 1973.

Bwyd golygu

Gall fwyta pryfed, ymlusgiaid a gwahanol fathau o aeron.

Yn y gwanwyn a'r haf cynnar mae'n bwyta trychfilod aeddfed a larfaol ond fel arall ffrwythau yw'r prif fwyd. Mae'n ymborthi ar y ddaear ac mewn coed a llwyni. Pan yn casglu bwyd i'r cywion bydd yn crynhoi stôr ar y ddaear yn gyntaf cyn ei gario ymaith i'r teulu[6].

Dosbarthiad golygu

Dengys gwaith maes 2008-12 mai ar fynyddoedd uchaf Caernarfon a Meirionnydd y ceir mwyafrif Mwyalchod y mynydd Cymru[7]. Ar lefel gyfandirol mae'n cyrraedd cyn belled i'r dwyrain a'r Cawcasws.

Mae'r is-rywogaeth T.t. torquatus (sy'n treulo'r tymor bridio ym Mhrydain a gogledd-orllewin Ewrop) yn gaeafu yn bennaf yn ne Sbaen a mynyddoedd yr Atlas yng ngogledd-orllewin Affrica, ond mae'r adar sy'n mudo o Scandinafia yn gaeafu yn ne Ffrainc. Er fod yr is-rywogaeth T.t. alpestris o dde-ddwyrain Ewrop yn tueddu i aeafu ar dir o uchder îs oddi fewn i'w ardal fridio, mae rhai yn gaeafu ar ynysoedd Môr y Canoldir ac efallai gogledd Affrica[8]

Statws golygu

Yn yr 17g roedd sylwebwyr fel Willoughby a Ray yn gyfarwydd iawn â'r fwyalchen fynydd yn y gogledd a chanrif yn ddiweddarach sylwodd y naturiaethwr Thomas Pennant bod Eryri yn gadarnle i'r aderyn. Erbyn troad y 19g., yn ôl prif naturiaethwr Cymreig y cyfnod HE Forrest (1911), ar lechweddau gogleddol mynyddoedd y Berwyn oedd y rhywogaeth ar ei chryfaf.

Os bu trai yng ngwaddol y fwyalchen fynydd ers oes Forrest, cymaint yn fwy - tranc yn amlach yn wir - ydoedd tua siroedd y de. Nid yw'r llechweddau mor serth a chreigiog ac felly yn fwy agored i gael eu gwella yn amaethyddol. Fe'i collwyd yn llwyr o lawer o'i safleoedd traddodiadol ym Maldwyn, Sir Gaerfyrddin a Maesyfed. Ar fynyddoedd yr Epynt, Sir Frycheiniog, lle bu gynt yn ffynnu, ni chofnodwyd nyth yno ers 1983.

Mae nifer o ffactorau honedig ymhlyg yn y trai a welwyd: trin yr ucheldir yn ddwysach, cystadleuaeth gynyddol yn sgîl ehangiad ym mhoblogaeth y fwyalchen gyffredin T. merula, ysglyfio cynyddol gan hebogiad tramor Falco pergrinus (mae gweddillion mwyalchod mynydd yn ymddangos yn rheolaidd yn eu holion bwyd), ac ar fynyddoedd y Berwyn yn enwedig, barcuta. Honnir hefyd bod dirywiad cynefin ar eu gaeafan ym Môr y Canoldir (colli coed meryw er enghraifft) yn chwarae rhan. Gall fod pob un o'r ffactorau hyn yn cyfrannu rhywfaint i'w sefyllfa anffodus[9]

O ddechrau'r 20g hyd heddiw felly, gwelwyd lleihad cyson yn niferoedd Mwyalchod y Mynydd yng Ngwledydd Prydain. Mae ystadegau pendant i'w cael: cofnodwyd 27% o ostyngiad rhwng cyfnod Atlas 1968-72 a chyfnod Atlas 1988-91, gyda'r gostyngiad mwyaf yn yr Alban a Chymru. Dangosodd cyfrifiad a wnaed yn 1999 leihad pellach ledled y Deyrnas Unedig a rhoddwyd y rhywogaeth ar y rhestr goch. Yn 2006, awgrymodd cyfrifiad arall fod 69% o leihad yng Nghymru ers 1999. Ers 1968-72, maent wedi encilio tua'r gorilewin ac o'r bryniau is[10].

Statws cyfreithiol golygu

Er fod y fwyalchen fynydd yn prinhau yng Nghymru a Phrydain mae ei phoblogaeth yn rhyngwladol yn ddigon cref i deilyngu'r categori isaf o gonsyrn amdani yn gyffredinol gan yr IUCN

Teulu golygu

Mae Mwyalchen y Mynydd (Turdus torquatus) yn aelod o deulu'r Turdidae (y mwyalchod, y mwyeilch neu'r brychion).

Enwau amgen golygu

Dyma restr o enwau eraill a gasglwyd gan Dewi E. Lewis a Chymdeithas Edward Llwyd:

mwyalchen y graig, y merwys, aderyn du y mynydd, y fwyalchen, fronwen, gwialchen y graig, rhegen y graig, jac y graig (Craig Cefn Parc, Cwm Tawe), fronfraith gwddf gadwynog (Llandysul), Turdus torquatus.[11]

Galwai chwarelwyr Maenofferen, Blaenau Ffestiniog geiliog y fwyalchen fynydd yn weinidog yr adar gan ei fod mewn du a choler wen (Steffan ab Owain)

Cysylltiadau a phobl golygu

Ni ellir bod yn bendant ynglŷn ag i ba raddau oedd ein cyndeidiau yn ymwybodol o'r fwyalchen fynydd fel rhywogaeth ar wahân i'r fwyalchen gyffredin. Nid oedd yr aderyn naill na'n cystadlu â nhw nac yn cael ei hela, ei ddofi na'i anwesu ganddynt, yng Nghymru o leiaf. Gan mai enw cyfansawdd lled ddiweddar yw Mwyalchen y mynydd (hynny yw, nid mwy na math o fwyalchen cyffredin T. merula ydyw, os hynny) ni ellir dadlau yn gryf ar sail yr enw bod ein hynafiaid Cymraeg eu hiaith wedi cymryd sylw arbennig o'r fwyalchen fynydd yn eu bywyd pob dydd. Noda Dewi Lewis (gw. Enwau amgen, uchod) (ymysg nifer o enwau cyfansawdd eraill sy'n cysylltu yn ôl i Turdus merula) yr enw syml 'Merwys' am Turdus torquatus ond mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cynnig tair rhywogaeth fel ystyr y gair hwn: mwyalchen, Turdus merula, mwyalchen y mynydd, Turdus torquatus a Bronwen y dŵr, Cinclus cinclus. Felly digon gwan oedd ymwybyddiaeth pobl drwy'r oesoedd o'r aderyn hwn. Serch hynny, anodd yw credu nad oedd y gân unigryw, y dorch wen a'r cynefin mynyddig yn tynnu sylw gwladwyr yr ucheldir dros yr oesoedd i ryw raddau.

Wedi dweud hynny, ar y cyfandir, mewn rhannau o'r Almaen heddiw, mae yna draddodiad hir o hela mwyeilch o wahanol fathau, yn cynnwys mwyalchod mynydd, i'w bwyta[12]

Sonia'r gwladwr a chyn-chwarelwr o Flaenau Ffestiniog Steffan ab Owain am chwarelwyr Maenofferen, Blaenau Ffestiniog yn galw ceiliog y fwyalchen fynydd yn weinidog yr adar gan ei fod mewn du a choler wen. Arferent hefyd dybio bod mwyalchen y mynydd "yn tueddu i gyrraedd ar y 29ain o Fawrth bron pob blwyddyn yn ddiffael".

Dewisodd Margaret Jones ddylunio mwyalchen fynydd i ddarlunio rôl y fwyalchen yn hanes yr anifail hynaf yn nghyfaddasiad Gwyn Thomas o Culhwch ac Olwen [13]

Enwau lleoedd golygu

O'r holl enwau lleoedd yng Nghymru sy'n cyfeirio at mwyalch(en) neu fwyalch(en) mae ambell un o leiaf yn debygol o gyfeirio at fwyalchen fynydd yn rhinwedd y cynefin y cyfeirir ato yn yr enw ac ar y ddaear. Un enghraifft posibl o hyn yw Llechwedd Fwyalchen", Llanuwchllyn, Meirionnydd[14]. Mae'r tir o gwmpas y safle a thu cefn iddo yn ddigon llechweddog i fod yn gynefin mwyalchen fynydd ar un adeg, gan gyflwyno'r enw i'r ffermdy heddiw[15]. Dywed Beryl Griffiths (ebost 25 Ebrill 2017), brodores o'r ardal, "Mae Llechwedd Alchen mewn lle arbennig o braf fel y gwelwch oddi wrth y wefan, ac er bod y tir o’i gwmpas wedi ei wella erbyn hyn, mae’n agos iawn i’r mynydd, felly pwy ŵyr nad ydi’r esboniad yn hollol gywir."

Rhai rhywogaethau eraill yn nheulu'r Brychion golygu

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Bronfraith Turdus philomelos
 
Bronfraith Mongolia Turdus mupinensis
 
Brych gyddfddu Turdus atrogularis
 
Brych y coed Turdus viscivorus
 
Coch dan adain Turdus iliacus
 
Mwyalchen Turdus merula
 
Mwyalchen y mynydd Turdus torquatus
 
Socan eira Turdus pilaris
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1. ebcc.info Archifwyd 2017-05-07 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 24 Ebrill 2017.
  2. Hagermeijer, Ward JM & Blair, Michael J (Goln.) 1997: EBCC Atlas of European birds: distribution and abundance (T & D Poyser)
  3. Handbook of the Birds of Europe the Middle East and North Africa; Cramp, S. ac eraill (1988); Cyfrol 5 o'r gyfres Tyrant Flycatchers to Thrushes
  4. Sylwadau gan Steffan ab Owain drwy Lên Natur.
  5. Cramp, S. ac eraill (1988) Handbook of the Birds of Europe the Middle East and North Africa; Cyfrol 5, Tyrant Flycatchers to Thrushes)
  6. Handbook of the Birds of Europe the Middle East and North Africa; Cramp, S. ac eraill (1988); Cyfrol 5, Tyrant Flycatchers to Thrushes)
  7. "Gwefan northwalesbirdatlas.co.uk; adalwyd 21 Ebrill 2017". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-19. Cyrchwyd 2017-04-20.
  8. Gwefan ebcc.info; Archifwyd 2017-05-07 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Ebrill 2017.]
  9. Lovegrove, R. ac eraill; (1994); Birds in Wales Poyser
  10. Gwefan northwalesbirdatlas.co.uk; Archifwyd 2017-05-19 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Ebrill 2017]
  11. Rhagor o Enwau Adar: Dewi E Lewis (Cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch).
  12. Cocker, M. (2013): Birds and People. Jonathan Cape
  13. Culhwch ac Olwen; t. 42, Gwasg Prifysgol Cymru (1988).
  14. http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/cronfa.aspx
  15. gwefan Llechwedd Fwyalchen:adalwyd 24 Ebrill 2017.