Marcus Licinius Crassus

(Ailgyfeiriad o Crassus)

Gwleidydd a chadfridog Rhufeinig oedd Marcus Licinius Crassus (tua. 115 CC - 53 CC).

Marcus Licinius Crassus
Ganwyd115 CC Edit this on Wikidata
Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 53 CC, 9 Mehefin 53 CC Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Harran Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig, swyddog y fyddin Edit this on Wikidata
Swyddllywodraethwr Rhufeinig, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoloptimates Edit this on Wikidata
TadPublius Licinius Crassus Dives Edit this on Wikidata
MamUnknown Edit this on Wikidata
PriodTertulla Edit this on Wikidata
PlantPublius Licinius Crassus, Marcus Licinius Crassus Edit this on Wikidata

Ymddengys fod Crassus yn drydydd mab I’r conswl Publius Licinius Crassus Dives. Lladdwyd ei dad ac un o’I frodyr yn Rhagfyr 87 CC wedi i Gaius Marius gipio grym yn Rhufain. Ffodd Crassus I Hispania ac yna i Ogledd Affrica., cyn ymuno â Sulla pan ddychwelodd ef i’r Eidal. Roedd yn gadfridog ar ran o fyddin Sulla pan orchfygwyd gweddillion cefnogwyr Marius a'r Samnitiaid tu allan i Rufain

Roedd teulu Crassus eisoes yn gyfoethog, a daeth ef yn gyfoethocach fyth. Dywedir iddo ffurfio math ar frigad dân yn Rhufain. Pan fyddai tŷ ar dân, byddai Crassus yn dod yno ac yn cynnig ei brynu am bris isel; yna byddai ei wŷr yn diffodd y tân. Trwy ei gyfoeth enillodd rym yn Rhufain, a pan wrthryfelodd y caethweision dan Spartacus yn 73 CC, rhoddwyd y gwaith o ddelio a’r gwrthryfel i Crassus. Bu’n ymgyrch hir, ond yn 71 CC gorchfygodd Crassus fyddin Spartacus. croeshoeliodd Crassus chwe mil o garcharorion ar hyd y Via Appia.

Yn 60 CC daeth Crassus i gytundeb i rannu grym gyda Iŵl Cesar a Gnaeus Pompeius Magnus. Yn 55 CC roedd yn gonswl am yr ail dro, a rhoddwyd Syria iddo fel talaith. Roedd Crassus yn awyddus am lwyddianau milwrol, i gystadlu a Cesar a Pompeius, a chroesodd Afon Euphrates mewn ymgais i goncro Parthia. Gorchfygwyd ei fyddin gan y Parthiaid ym Mrwydr Carrhae (Harran yn Nhwrci heddiw) yn 53 CC, pan laddwyd mab Crassus. Yn fuan wedi’r frwydr aeth Crassus at y Parthiaid i drafod telerau, ond cipiwyd ef a’i ladd. Mae chwedl i’r Parthiaid ei ladd trwy dywallt aur tawdd i lawr ei wddf, i geisio diwallu ei wanc am aur.