Arweinydd byddin o gaethweision yn erbyn Rhufain oedd Spartacus (bu farw 71 CC).

Spartacus
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Thrace Edit this on Wikidata
Bu farwEbrill 71 CC Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Lucania Edit this on Wikidata
Galwedigaethgladiator, arweinydd milwrol Edit this on Wikidata
TadUnknown Edit this on Wikidata
MamUnknown Edit this on Wikidata

Nid oes sicrwydd am hanes cynnar Spartacus; dywed rhai haneswyr ei fod wedi ei gymeryd yn garcharor wrth ymladd yn erbyn Rhufain, eraill ei fod wedi bod yn filwr ym myddin Rhufain, wedi dianc ac yna wedi cael ei ddal. Dywedir ei fod yn frodor o Thrace. Yn 73 CC roedd mewn ysgol hyfforddi gladiator yn perthyn i Lentulus Batiatus gerllaw Napoli. Y flwyddyn honno, llwyddodd i ddianc gyda 70 neu 80 arall. Ffoesant i Fynydd Vesuvius, ac yn raddol tyfodd ei fyddin nes cynnwys tua 70,000 o gaethweision wedi dianc.

Llwyddodd y fyddin o gaethweision i orchfygu dwy leng Rufeinig a yrrwyd yn eu herbyn. Yng ngwanwyn 72 CC symudodd y fyddin tua'r gogledd, gan orchfygu tair lleng Rhufeinig arall. Ymddengys mai cynllun gwreiddiol Spartacus oedd croesi'r Alpau i adael yr Eidal, ond yn y diwedd troi yn ôl tua'r de wnaeth y rhan fwyaf o'r fyddin. Gorchfygasant ddwy leng arall dan Marcus Licinius Crassus.

Wedi cyrraedd de'r Eidal, gwnaeth Spartacus gytundeb a môrladron o Cilicia i fynd a'i fyddin i Sicilia yn eu llongau, ond ni chadwodd y môrladron at y cytundeb. Erbyn hyn roedd gan Crassus wyth lleng, a cheisiodd gornelu byddin Spartacus yn ne yr Eidal. Gallodd Spartacus ymladd ei ffordd trwy linellau Crassus a symud i gyfeiriad Brundisium (Brindisi heddiw). Llwyddodd Crassus i'w ddal, a lladdwyd Spartacus yn y frwydr.

Gorchfygwyd y caethweision yn llwyr, a croeshoeliodd Crassus tua 6,000 ohonynt ar hyd y Via Appia rhwng Capua a Rhufain.

Mae Spartacus wedi bod yn arwr nifer o nofelau a ffilmiau; yn arbennig y ffilm enwog Spartacus a wnaed gan Stanley Kubrick yn 1960, pan gymerwyd rhan Spartacus gan Kirk Douglas, gyda Laurence Olivier fel Crassus.